8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Part of the debate – Senedd Cymru ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Cynnig NDM6326 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd.

2. Yn cydnabod bod gan Gymru anghenion a gofynion unigryw drwy gydol y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn credu mai yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, y nodir orau beth yw amgylchiadau Cymru a'i hanghenion yn y dyfodol.