<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:43, 13 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, y GIG yw’r gwasanaeth cyhoeddus y mae gennym ni fwyaf o feddwl ohono. Mae pob un ohonom ni’n dibynnu arno a dyna’r ymrwymiad gwariant unigol mwyaf yng nghyllideb Cymru, sy'n adlewyrchu ei bwysigrwydd i'n pobl. A ydych chi’n fodlon â llywodraethiad ariannol y GIG?