<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:44, 13 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ddydd Gwener, cyhoeddwyd bod pedwar o'r 10 sefydliad GIG wedi methu â mantoli’r gyllideb dros y cyfnod ariannol tair blynedd. Nawr, rydym ni’n gwybod bod tri bwrdd iechyd wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu, a bod pedwerydd yn cael ei fonitro. Soniasoch eich bod wedi cyflwyno cyllidebau tair blynedd er mwyn ceisio datrys y problemau hynny, ond rydym ni’n dal i weld y diffygion hyn yn dod i'r amlwg dros y cyfnod hwnnw o dair blynedd. Prif Weinidog, o dan eich goruchwyliaeth chi, a yw cyllid y GIG yn gadarn?