Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 13 Mehefin 2017.
Nid oes unrhyw wasanaethau wedi dioddef o ganlyniad i'r diffygion hyn. Rydym ni wedi sicrhau bod gan y sefydliadau ddigon o arian i fodloni eu hymrwymiadau arferol, ac rydym ni’n rheoli eu diffygion o fewn y gyllideb iechyd gyffredinol, yn amodol ar gadarnhad archwiliad. Roedd y gyllideb iechyd gyffredinol wedi ei mantoli yn 2016-17. Nawr, drwy'r trefniadau ymyrraeth, rydym ni’n gweithio'n agos â'r sefydliadau hynny i fynd i'r afael â'r materion llywodraethu, rheoli a gwasanaeth sy'n sail i’w diffygion ac ni fyddwn yn osgoi cymryd camau cadarn gyda'r sefydliadau hyn os mai dyna sydd ei angen.