Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Mehefin 2017.
Un o negeseuon yr etholiad cyffredinol oedd nad oedd pobl eisiau’r Ceidwadwyr Cymreig. Hynny yw, rwy'n synnu braidd ei fod yn ei godi. Rwy’n meddwl tybed faint yn fwy y gall ei gymryd o gael ei ddisodli fel arweinydd ar raglenni, ond gofynnodd gwestiwn am weithwyr canser allweddol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n dal i weithio tuag ato i wneud yn siŵr bod gan bawb y gweithiwr allweddol hwnnw. Bydd yn gweld bod y swm o arian sydd wedi mynd i mewn i driniaeth ganser wedi cynyddu dros y blynyddoedd.