Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 13 Mehefin 2017.
Wel, ni allaf fynd ymhellach na'r ateb yr wyf i eisoes wedi ei roi iddo, sef bod y gwaith yn mynd rhagddo. Mae'n gofyn y cwestiwn, 'Pryd fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau?'—byddaf yn ysgrifennu ato gyda dyddiad yn hynny o beth—gofynnodd y cwestiwn penodol hwnnw i mi—ond mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni eisiau ei weld yn cael ei roi ar waith yn y dyfodol.