<p>Pleidleisio Gorfodol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:00, 13 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, a gaf i ddweud, fel chithau, rwy'n falch bod nifer y pleidleiswyr ddydd Iau diwethaf yn llawer agosach at y duedd hanesyddol yr ydym ni wedi ei chael yn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar iawn amdano? Un peth sy'n bob amser yn fy nharo fel rhywbeth sy’n rhyfedd iawn yw pam yr ydym ni’n pleidleisio ar ddydd Iau. Bu un neu ddau o achlysuron yn yr ugeinfed ganrif lle cynhaliwyd etholiadau cyffredinol ar ddydd Mawrth, ond pam nad ydym ni’n pleidleisio, fel y rhan fwyaf o wledydd ledled y byd, dros y penwythnos? Does bosib y byddai honno’n ffordd wych o sicrhau bod gan gymaint o ddinasyddion â phosibl bob cyfle i gyrraedd y bwth pleidleisio.