<p>Pleidleisio Gorfodol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 13 Mehefin 2017

Wel, nid oes rheswm, mewn egwyddor, pam ddylai pleidleisio digidol ddim digwydd. Mae yna broblem ymarferol ynglŷn â diogelwch, fel rwy’n ei ddeall, sydd yn ei wneud e’n anodd iawn ar hyn o bryd. Ond nid oes rheswm, yn y pen draw, pam ddylai hynny ddim ddigwydd. Ar un adeg, roedd pob un yn y Siambr hon yn gweld y diwrnod pleidleisio fel y diwrnod oedd eisiau cael pobl mas i bleidleisio. Nid felly mae hi rhagor, achos mae cymaint o bobl yn pleidleisio drwy’r post. So, mewn egwyddor, nid oes rheswm pam ddylai’r system aros yn gwmws fel mae fe, achos un o’r pethau a wnes i sylwi dros y diwrnodau diwethaf o wythnos diwethaf roedd y ffaith bod pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli i bleidleisio o achos cyfryngau cymdeithasol. Dyna le maen nhw’n cael eu newyddion. Roedd grwpiau ohonyn nhw wedi penderfynu pleidleisio. Felly, mae’n hollbwysig bod hynny’n cael ei ystyried ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n ystyried, yn y pen draw, pan fydd yr amser yn iawn, pleidleisio digidol.