Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Mehefin 2017.
Wel, roedd hynny ar sail Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol ac yn rhoi’r arian i ni i'n galluogi i ystyried gwneud hynny. Nid yw hynny wedi digwydd, eto, a phan fydd hynny’n digwydd, byddwn wrth gwrs eisiau gweld sut y gallwn ni sicrhau bod y myfyrwyr yng Nghymru ddim gwaeth eu byd na'r rheini yn Lloegr, fel yr ydym ni wedi ei wneud ers nifer o flynyddoedd o dan Lywodraethau olynol.