Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 13 Mehefin 2017.
Mae Darren Millar yn codi pwynt pwysig, ac rwy'n siŵr y bydd yn ei godi gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn rhoi sylw difrifol iawn iddo, sef yr ystyriaeth o ddiogelwch ar safleoedd, yn enwedig o ran cyfrinachedd cleifion ac, yn wir, diogelwch y staff a’r cleifion.