Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 13 Mehefin 2017.
Wel, nid wyf yn hollol siŵr i ble y mae’ch cwestiynau chi’n arwain, Mohammad Asghar, heblaw am ddweud y gallaf eich sicrhau yn bendant na fyddwn yn newid ein polisi ar bresgripsiynau rhad ac am ddim, sydd nid yn unig wedi lliniaru mesurau cyni eich Llywodraeth Geidwadol chi dros y saith mlynedd diwethaf, ond sydd hefyd wedi ein galluogi i drin y rhai sy'n dioddef yr anghydraddoldebau mwyaf o ran iechyd yng Nghymru.