Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 13 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Mai 2015, cyhoeddais adolygiad o’r cymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, wedi’i gadeirio gan yr Athro Medwin Hughes. Dyma'r tro cyntaf i adolygiad annibynnol ystyried y cymorth cyffredinol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gyhoeddi a llenyddiaeth. Comisiynwyd adolygiad o’r cymorth ar gyfer llyfrau o Gymru yn 2014, ond nid oes panel annibynnol wedi'i gomisiynu o'r blaen i ystyried y maes hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy’n ddiolchgar i aelodau'r panel adolygu am eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled. Bydd adroddiad y panel ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru y prynhawn ’ma.
Gofynnais i'r panel asesu prif nodau Llywodraeth Cymru wrth gefnogi'r diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, yn y ddwy iaith. Beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd? A yw'r nodau hyn yn dal i fod yn addas yn yr unfed ganrif ar hugain? Gofynnais iddynt edrych ar raddfa a chylch gwaith y cymorth a roddir ar hyn o bryd, gan gynnwys y berthynas rhwng y cyrff sy'n gyfrifol am ddarparu’r cymorth hwn. Gofynnwyd iddynt hefyd ystyried effaith datblygiadau digidol o fewn y diwydiant cyhoeddi, ac i asesu'r trefniadau gweinyddol o ran ein cymorth ar gyfer gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol ar-lein, yn ogystal â’r papurau bro. Yn olaf, byddai’r panel yn ystyried cymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.
Wrth gynnal y dadansoddiad hwn, roedd y panel, wrth gwrs, yn ymwybodol o flaenoriaethau strategol ehangach Llywodraeth Cymru fel y'u nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen' yn ogystal â’n dyletswyddau cyfreithiol i bobl Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bu newidiadau mawr yn y modd y caiff deunydd ysgrifenedig a chlyweledol ei gyhoeddi a'i fwynhau. Mae'r adolygiad hwn, felly, yn rhoi cyfle i ailystyried natur y cymorth seilwaith presennol yng nghyd-destun y ddeinameg newidiol yn y maes cyhoeddi. Mae newidiadau o’r fath yn cynnwys y ffyrdd creadigol y mae awduron yn ymarfer ac yn ymgymryd â’u crefft, y datblygiadau digidol ar gyfer cyhoeddi a'r cyfleoedd sy'n ehangu'n barhaus i ddarllenwyr ymgysylltu â llenyddiaeth, boed hynny drwy ddigwyddiadau byw neu fformatau eraill.
Mae'n debygol y bydd rhagor o newidiadau enfawr yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf. Felly, wrth lunio ei argymhellion, canolbwyntiodd y panel ar yr angen am strwythurau cefnogi a fydd nid yn unig yn briodol ar gyfer 2017, ond a fydd yn ddigon hyblyg i ymateb i esblygiad pellach yn y sector, parhau’n berthnasol a gallu nodi cyfleoedd newydd ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth ledled Cymru.
Mae wedi cymryd cryn amser i gwblhau’r adroddiad hwn. Trwy benderfynu yn gywir ar ddull sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth, estynodd y panel wahoddiad i randdeiliaid allweddol gyflwyno sylwadau ar y seilwaith a’r cymorth presennol yng Nghymru. Roedd y trafodaethau hyn yn aml yn danbaid, ac yn dangos yn amlwg lefel y diddordeb proffesiynol yn y pwnc. Cafodd y cyhoedd hefyd wahoddiad i gyfrannu trwy holiadur dwyieithog ar-lein. Cafwyd ymateb annisgwyl ond calonogol o fawr, a oedd yn dangos yn glir y pwysigrwydd y mae pobl yn ei roi ar ein traddodiad llenyddol cyfoethog a bywiogrwydd cyfoes deunydd cyhoeddedig yng Nghymru. O ystyried y swm sylweddol o dystiolaeth a gyflwynwyd, daeth yn amlwg bod angen rhagor o amser ar y panel i’w hystyried yn fanwl.
Mae'r adroddiad terfynol yn egluro'r ecosystem cyhoeddi a llenyddol yng Nghymru, o’r awdur i’r darllenydd, ac yn ei osod yng nghyd-destun blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwylliant a'r diwydiannau creadigol, a’r cyfraniad a wneir gan lenyddiaeth a chyhoeddi. Mae'n ystyried materion a wynebir wrth gyhoeddi yn y Gymraeg ac yn Saesneg ac yn disgrifio'r broses gyhoeddi ei hun, gan esbonio'r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae'n nodi swyddogaethau Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru ac amryw swyddogaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys addysg, yr uned digwyddiadau mawr, is-adran y Gymraeg a'r diwydiannau creadigol.
Mae'r adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth a gafwyd gan y sefydliadau rhanddeiliaid allweddol, gan y diwydiant ei hun, a chan y cyhoedd. Mae'n esbonio ymateb y panel i'r dystiolaeth honno, gan arwain at ei gasgliadau a'i argymhellion. Nid oes amser i mi drafod hyn yn fanwl, ond gallaf ddweud bod y panel wedi nodi arfer da sylweddol a chymorth effeithiol y dylid parhau ag ef ac adeiladu arno yn y dyfodol.
Nododd feysydd lle mae angen i gymorth esblygu i ddiwallu anghenion heriol oes ddigidol. Canfu hefyd dystiolaeth glir o broblemau gwirioneddol mewn rhai meysydd, yn ymwneud â chynllunio strategol, pennu blaenoriaethau, llywodraethu, rheoli risg, gwariant, ac wrth sicrhau bod y gweithgareddau yn effeithiol wrth gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom. Yn fras, rwy’n derbyn casgliadau'r panel ac yn cytuno bod angen gweithredu.
Mae'r panel yn cyflwyno achos cryf dros sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol priodol, yn seiliedig ar werthfawrogi ein traddodiad llenyddol dwyieithog enwog, ei alluogi i ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain, sicrhau ei fod yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang, a chefnogi pobl ledled Cymru i fod yn rhan ohono a chymryd rhan ynddo. Mae hefyd yn cyflwyno achos dros ddiwydiant cyhoeddi cryf, arloesol, sy'n cynnig swyddi o ansawdd uchel, yn cystadlu yn rhyngwladol, ac yn caniatáu i awduron proffesiynol o bob cefndir ddilyn llwybrau gyrfa yng Nghymru.
Dylai'r cymorth hwn fod ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg fel ei gilydd, mewn print ac yn ddigidol. Fodd bynnag, mae angen gwella'n sylweddol y strategaeth a’r ddarpariaeth ddigidol gan y sefydliadau sy’n cefnogi. Mae'r panel yn amlinellu cyfres o argymhellion. Mae rhai o'r rhain ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae eraill ar gyfer y diwydiant a'r sefydliadau cyflawni allweddol. Byddwn yn ymateb yn ffurfiol maes o law, ond byddaf yn esbonio rhai o'r prif argymhellion strategol a strwythurol. O ystyried y pwysau sylweddol a natur cymhellol y dystiolaeth a gafwyd, rwyf o blaid derbyn y rhain a byddaf yn gweithio gyda'r sefydliadau perthnasol i weithredu arnynt.
Dylai Llywodraeth Cymru geisio cytundeb gan Cyngor Llyfrau Cymru y bydd yn cyflawni rhai o swyddogaethau presennol Llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys: llyfr y flwyddyn, gan geisio cynyddu ei effaith fasnachol; bwrsariaethau; digwyddiadau llenyddol ac awduron ar daith; a darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i drosglwyddo cyllid priodol gan Lywodraeth Cymru o Gyngor Celfyddydau Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru, at y dibenion hyn.
Byddai angen wedyn i Gyngor Llyfrau Cymru roi ystyriaeth i’r canlynol: newid teitl i adlewyrchu’r cyfrifoldebau ychwanegol; presenoldeb priodol ar lefel ranbarthol ledled Cymru; strategaeth ddigidol glir ag iddi bwyslais; strategaeth glir i hyrwyddo cynhwysiant ledled Cymru, gan adeiladu ar ei strategaeth tlodi plant sydd eisoes yn bodoli; a strategaeth datblygu talent. Byddai angen cynnwys y newidiadau hyn mewn llythyr dyfarnu grant diwygiedig i'r cyngor llyfrau a llythyr cylch gwaith diwygiedig i'r cyngor celfyddydau. Ar ôl y newidiadau hyn, byddai'r cyfrifoldeb dros ganolfan ysgrifennu Tŷ Newydd a chyflwyno digwyddiadau a gwyliau diwylliannol eraill yn aros gyda’r cyngor celfyddydau a Llenyddiaeth Cymru.
Rwy'n sylweddoli y gall rhai pobl fod yn synnu at hyd a lled y newidiadau. Dylwn i bwysleisio eu bod yn ymateb i anghenion penodol mewn maes gweithgarwch penodol. Nid ydynt yn adlewyrchu gwaith ehangach y cyngor celfyddydau a fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith da y mae Llenyddiaeth Cymru yn ei wneud mewn rhai meysydd; er enghraifft, cyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau mawr yn rhagorol sy’n cysylltu â'n blynyddoedd thema—ni fydd hyn yn newid. Fodd bynnag, rwyf wedi fy narbwyllo bod angen y camau hyn i greu strwythur cymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth sy'n fwy effeithiol ac yn fwy addas i’w ddiben.