Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch, Jeremy. Ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer diwygio addysg yw adeiladu system addysg gynhwysol a theg sy’n cefnogi pob dysgwr. Rydym yn parhau i gryfhau ein dull o gydadeiladu polisi ar draws y model tair haen, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatblygu ein cwricwlwm newydd a’n safonau addysgu proffesiynol newydd.