Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch, Jeremy. Fel rhan o’u hadolygiad cyflym o’r polisi, nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ein system ysgolion cyfun, sy’n pwysleisio tegwch a chynhwysiant fel un o gryfderau addysg yng Nghymru. Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at system hunanwella yng Nghymru. Ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar y sylfeini hyn a pharhau i ddatblygu’r dulliau hynny, sy’n seiliedig ar gydweithio, ar draws yr holl ysgolion, gan ddysgu arferion da oddi wrth ei gilydd, yn ogystal ag ymgorffori materion yn ymwneud â chydweithredu o fewn y cwricwlwm ei hun.