Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch, David. Mae’r Fagloriaeth Gymreig ddiwygiedig yn amlygu pwysigrwydd datblygu’r sgiliau hanfodol ac yn cynnig cyfleoedd i’r sector cydweithredol a chydfuddiannol gymryd rhan, drwy’r heriau menter a chyflogadwyedd, a’r heriau cymunedol. Mae sefydliadau, felly, yn cael eu hannog i ddatblygu neu ddod yn rhan o’r broses o gyflwyno’r heriau hynny, o fewn ysgolion unigol, ac yn amlwg, mae entrepreneuriaeth yn un o’r heriau hynny. Rwy’n barhaol yn edrych am ffyrdd y gallwn annog ymgorffori’r mathau hynny o sgiliau yn y cwricwlwm, am eu bod yn sgiliau pwysig iawn i’n plant eu dysgu a’u defnyddio ym myd gwaith.