Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Gwener, y diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredinol, roedd yna eitem newyddion a oedd yn awgrymu bod eich Llywodraeth yn torri gwerth £28 miliwn oddi ar gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n amlwg yn mynd i effeithio’n sylweddol ar brifysgolion Cymru. Pam y penderfynasoch gladdu newyddion drwg ar y diwrnod hwnnw, a sut y gallwch amddiffyn y toriadau hynny?