Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’n fawr eich sicrwydd yn y pwyllgor y bore yma y bydd y grant amddifadedd disgyblion a ailenwyd yn parhau i gael ei dargedu at ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim a hefyd, diolch i chi am eich geiriau caredig am ysgol Woodlands yn fy etholaeth. Nid oes amheuaeth fod yna arfer rhagorol i’w weld yn y defnydd o’r grant amddifadedd disgyblion yng Nghymru, ac ymwelais yn ddiweddar ag Ysgol Gynradd Garnteg, lle maent yn gwneud defnydd rhagorol o’r grant amddifadedd disgyblion i hyrwyddo gwydnwch emosiynol a lles meddyliol ymysg eu disgyblion. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y byddwch yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y grant amddifadedd disgyblion, a hefyd y byddwch yn monitro’n llym y defnydd o’r grant amddifadedd disgyblion er mwyn sicrhau ei fod o fudd i’r disgyblion y bwriedir iddo eu cynorthwyo?