<p>Gwydnwch Emosiynol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:17, 14 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lynne. Mae’n rhaid i hyrwyddo gwydnwch emosiynol plant a phobl ifanc gael ei ddeall yng nghyd-destun ehangach eu llesiant. Mae cysylltiad rhwng lefelau uwch o lesiant a chynnydd o ran cyflawniad ac ymgysylltiad addysgol. Am y rheswm hwnnw, rydym yn ychwanegu ‘llesiant’ fel pumed amcan yn y fersiwn nesaf o ‘Cymwys am Oes’.