Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Lynne. Mae’n gwbl hanfodol. Fel y trafodwyd yn y pwyllgor y bore yma, mae llawer y gallwn ei wneud i atal sefyllfaoedd anodd i’n pobl ifanc a’n plant, ond ni fyddwn byth yn gallu eu hatal rhag profi troeon yr yrfa—boed yn brofedigaeth, boed yn chwalfa perthynas bwysig yn eu bywydau, boed yn fwlio, ni fyddwn byth yn gallu eu diogelu rhag yr holl heriau y byddant yn eu hwynebu, ond gallwn eu helpu i fod yn fwy gwydn a chaniatáu iddynt ymdopi’n well pan fydd y newidiadau hynny’n digwydd. Rydych yn hollol gywir; ni allaf wneud hyn ar fy mhen fy hun. Dyna pam rwy’n awyddus iawn i weithio ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod Cabinet dros iechyd yma i nodi pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer gweithio ar y cyd. Yn fwyaf diweddar, nododd y ddau ohonom swm o arian y gobeithiwn allu ei ddefnyddio i fynd i’r afael â rhai o’r problemau real hyn yn ein hysgolion uwchradd.