<p>Cronfa Cyd-ffyniant</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:26, 14 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw ac mae’n ymddangos bod gwaith yn mynd rhagddo yn ei adran i edrych ar hyn. Ond a yw’n rhoi unrhyw sylw i’r pryderon a godwyd gan sylwebwyr sy’n awgrymu, er na ellid dadlau ar yr wyneb â’r cysyniad o gronfa gyd-ffyniant—mae’n swnio’n hynod o gynnes a meddal a theg a chyfiawn a bydd gan bawb gyfran ynddi—y dilema yma wrth gwrs yw os caiff hyn ei wneud yn San Steffan, ei benderfynu gan San Steffan, ei ddyrannu gan San Steffan, neu fel arall, ei ddyrannu yn unol â blaenoriaethau gwleidyddol, gallai fod yn annheg iawn yn wir a gall yn wir, yn ôl y gyfraith, wrthdroi’r sefyllfa gyllido bresennol i’r sefydliadau datganoledig. Gallai ei gwneud yn annheg iawn yn wir. Felly, a yw’n rhannu’r pryderon y gallai’r dull hwn newid natur datganoli yn sylfaenol ac ailsefydlu rheolaeth San Steffan dros gyllid datganoledig mewn gwirionedd?