Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Mehefin 2017.
Mae rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn fater a gadwyd ôl ar hyn o bryd. Ond mae cymorth gwladwriaethol domestig, neu gymorth gwladwriaethol y DU—a ddiffinir fel unrhyw grant neu ffurf arall ar gymhorthdal nad yw’n cynnwys gwyrdroad i fasnachu ar draws ffiniau’r UE—wedi’i ddatganoli. Felly, drwy gael gwared ar fframwaith cymorth gwladwriaethol yr UE, beth yw sefyllfa Llywodraeth Cymru? A ddylai cymorth gwladwriaethol domestig y DU barhau i fod yn fater datganoledig?