Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 14 Mehefin 2017.
Iawn. Wel, mae disgwyl i’r rhan fwyaf o’r darpariaethau yn y Ddeddf, gan gynnwys symud i fodel cadw pwerau o ddatganoli, ddod i rym ar yr hyn a labelwyd yn brif ddydd penodedig. Ein disgwyliad gweithredol yw bod Swyddfa Cymru’n gweithio tuag at brif ddydd penodedig rywbryd ym mis Ebrill 2018. Mae’n rhy gynnar i ddweud gyda phendantrwydd beth fydd yr union ddyddiad, ond wrth gwrs, mae dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ymgynghori gyda Gweinidogion Cymru, a chyda’r Llywydd, cyn penderfynu ar y dyddiad penodol hwnnw. Fy nealltwriaeth i yw y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru a’r Llywydd cyn hir, yn gofyn am safbwyntiau ar bennu’r diwrnod penodol hwnnw.