Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw ac i ailddatgan cryfder ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni’r gwelliannau y mae pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr yn dweud wrthym eu bod am eu gweld. Ers i ni drafod awtistiaeth ddiwethaf yn y Siambr hon, mae cynnydd da wedi’i wneud. Mae blwyddyn bellach ers i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gael ei rhoi mewn grym ac mae’n dechrau trawsnewid y ffordd y mae pobl yn cael gofal a chymorth. Cyhoeddasom gynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer awtistiaeth, yn gyfan gwbl mewn ymateb i’r hyn y dywedodd pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd wrthym eu bod eisiau ei weld, ac rydym eisoes yn cyflawni’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn, yn cynnwys buddsoddi £13 miliwn yn ein gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd, sy’n newid go iawn i’r ffordd rydym yn diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth.
Fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ar awtistiaeth ar ddiwedd mis Tachwedd, mae gan Lywodraeth Cymru y pwerau a’r ysgogiadau polisi sydd eu hangen arnom i gyflawni’r gwelliannau i wasanaethau a chymorth y mae pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr, yn dweud wrthym eu bod am eu gweld. Rwyf wedi dweud y byddwn yn cadw meddwl agored ynglŷn â’r angen am fwy o ddeddfwriaeth ar ôl i ni allu asesu’r dystiolaeth ar ganlyniadau’r cynllun gweithredu strategol newydd ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig a’r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Serch hynny, mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y byddaf, yn ystod y tymor Cynulliad hwn, yn cyflwyno canllawiau statudol ar awtistiaeth o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant i ategu’r gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu strategol. Bydd hyn yn sicrhau bod cyrff statudol yn deall eu cyfrifoldebau tuag at bobl ag awtistiaeth ac yn gweithredu i ddiwallu’r anghenion hynny. Fel y mae’r Prif Weinidog wedi datgan o’r blaen yn y Siambr hon, rwy’n archwilio sut y gallwn gyflwyno deddfwriaeth i roi’r cynllun gweithredu strategol ar y sbectrwm awtistig ar sail statudol, a gwn fod hyn yn mynd at wraidd yr hyn y siaradodd Paul Davies amdano yn ei araith heddiw, ac y bydd yr Aelodau yma a phobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yn croesawu hyn.
Rwyf eisoes wedi gwneud ymrwymiad clir yn y cynllun gweithredu strategol i fonitro’r cynnydd rydym yn ei wneud. Ers ein dadl ddiwethaf, rwyf wedi sefydlu grŵp cynghori ar weithredu ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ac fe gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Mawrth. Mae’r aelodaeth yn cynnwys pobl sydd ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr, sefydliadau sy’n eu cynrychioli a sefydliadau cyflawni statudol. Bydd y grŵp hwn yn fy nghynghori ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a lle mae’n rhaid gwella. Ers ein dadl ddiwethaf, rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad blynyddol a fydd yn canolbwyntio ar y gwelliannau a brofir yn uniongyrchol gan bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Rydym eisiau gwybod sut y mae eu bywydau o ddydd i ddydd yn gwella a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae rhieni yn bryderus iawn ynglŷn ag amseroedd aros am asesiad a diagnosis, a hynny’n ddigon teg. Trwy ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, rwy’n falch o ddweud ein bod yn rhyddhau £2 filiwn bob blwyddyn i wella gwasanaethau asesu niwroddatblygiadol. Rydym wedi cyflwyno targed amser aros newydd o 26 wythnos rhwng atgyfeiriad ac apwyntiad cyntaf, ac rydym eisoes wedi rhoi llwybr asesu plant newydd y cytunwyd arno’n genedlaethol ar waith ledled Cymru, fel bod teuluoedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan fydd eu plentyn yn cael ei gyfeirio i gael asesiad a bod yna gysondeb lle bynnag y maent yn byw.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau wedi dweud yn glir iawn wrth y byrddau iechyd ynglŷn â’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwallu anghenion pobl ag awtistiaeth. Gwyddom efallai nad yw llawer o bobl ag awtistiaeth yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae’n dal i fod ganddynt anghenion cymorth sylweddol, a allai waethygu os nad eir i’r afael â hwy’n gynnar. Trwy’r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd i rai o bob oed, byddwn yn rhoi cefnogaeth i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u teuluoedd pan fyddant fwyaf o’i angen. Bydd cymorth a chyngor ar gael gan ystod o broffesiynau arbenigol, gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol a seicoleg. Bydd gweithwyr cymunedol ar gael hefyd ym mhob awdurdod lleol i gefnogi a chynorthwyo gyda materion o ddydd i ddydd. Bydd y gwasanaeth yn darparu cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â phethau megis rheoli pryder, sgiliau cymdeithasol, sgiliau bywyd bob dydd a chael gafael ar wasanaethau eraill fel gofal iechyd, cymorth cyflogaeth a thai. Felly, mae’r gwasanaeth hwn bellach yn dod yn realiti. Mae eisoes ar waith ym Mhowys, a dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd a’r Fro, Gwent a Chwm Taf. Bydd pob un o’r rhanbarthau sy’n weddill yn dechrau datblygu’r gwasanaeth eleni, ac edrychaf ymlaen at weld Cymru yn dod yn wlad gyntaf i ddarparu gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol llawn erbyn 2018, flwyddyn cyn ein hamserlen wreiddiol ein hunain.
I gydnabod pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn yn fy marn i, rwyf wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gael o £6 miliwn i £13 miliwn, sy’n golygu y bydd pob rhanbarth yn cael cyllid ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn, gan greu gwasanaeth hirdymor a chynaliadwy ar draws Cymru. Mae hyn i gyd yn gyffrous iawn, ond rwy’n deall y rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o deuluoedd sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt yn awr. Mae ein cynlluniau yng Nghymru yn uchelgeisiol, ac er ei bod yn ddyddiau cynnar ar lawer ohonynt, mae cymorth ar gael. Yr hyn sy’n dod yn amlwg i mi wrth i mi gyfarfod â rhieni a gofalwyr a phobl ag awtistiaeth, yw nad yw teuluoedd bob amser yn ymwybodol o’r gwasanaethau newydd sy’n cael eu datblygu a’r adnoddau y gallant wneud defnydd ohonynt eisoes. Mae ein gwefan ASD Info Cymru yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth, ac mae angen i bob sefydliad sy’n cefnogi pobl ag awtistiaeth yng Nghymru chwarae eu rhan a gweithio gyda ni i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael.
Bydd llawer o’r Aelodau yn crybwyll mater addysg yn y ddadl hon. Er mwyn i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth gael profiad addysgol cadarnhaol, dylai sefydliadau addysgol ddarparu amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo’n ddiogel, lle cânt eu deall gan eu cyfoedion, gan staff addysgu a chan staff nad ydynt yn addysgu, a lle y gallant ddysgu. Mae ein rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth wedi bod yn hynod o boblogaidd mewn ysgolion, a gallaf gyhoeddi heddiw ei bod bellach yn cael ei haddasu ar gyfer addysg bellach a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith hefyd. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol eisoes ar y gweill, ac yn cyflawni gwelliannau mewn ymarfer yn awr, a fydd o fudd i ddysgwyr yn y system gyfredol ac yn y system yn y dyfodol, fel yr argymhellwyd gan y Bil anghenion dysgu ychwanegol.
Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd sy’n ein helpu i gyflawni ein hymgyrch newydd, ‘Weli di fi?’ i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn y gymuned. Caiff ei chyflwyno gan Gethin Jones, ac mae’n cael cefnogaeth eang yn y cymunedau lleol, gan gynnwys busnesau a chyfleusterau lleol megis canolfannau hamdden, gan ddangos beth y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd a phan fyddwn yn rhoi’r grym yn nwylo pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd.
Credaf ein bod yn rhoi’r camau cywir ar waith i wella’r system bresennol o gymorth i bobl ag awtistiaeth, ond rwyf hefyd yn cydnabod ei bod yn ddyddiau cynnar o ran gweld manteision ein buddsoddiad newydd sylweddol. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal ar gynnig Paul Davies heddiw, sy’n golygu y gall y ddeddfwriaeth ddrafft symud yn ei blaen ac y bydd gwaith yn digwydd arni dros y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith o gyflawni ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig a’n gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Mae Paul a minnau wedi cael nifer o gyfarfodydd adeiladol iawn ar y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at ei gyfarfod eto i weithio gyda’n gilydd i fireinio rhagor ar y cerrig milltir y byddwn yn ceisio eu cyflwyno dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y canlyniadau a gwelliannau amlwg i fywydau pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd, sef yr hyn y gall pawb ohonom gytuno ein bod am ei weld. Diolch, Dirprwy Lywydd.