Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n rhannu rhai o’r pethau roeddech yn sôn amdanynt, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r sail statudol y siaradodd y Gweinidog amdani a’r cyllid ychwanegol. Roeddwn eisiau cofnodi y byddaf yn cefnogi hyn heddiw; credaf fod Paul wedi mabwysiadu’r ymagwedd gywir yn y ffordd gymodlon y mae bob amser yn ei defnyddio pan fydd yn gwneud pethau.