5. 5. Dadl yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod — Y Bil Awtistiaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:28, 14 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu, y prynhawn yma, ein bod wedi gweld, fel y mae’r rhan fwyaf o’r Aelodau ar draws y Siambr—Leanne Wood, Lynne Neagle, Mark Isherwood—wedi amlygu, fod pawb ohonom yn derbyn llawer o sylwadau gan deuluoedd sydd â phlant neu frodyr a chwiorydd yn byw gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Maent yn aml yn dod i’n swyddfeydd yn flin, dan straen, yn bryderus, wedi blino’n lân, ac weithiau’n brwydro yn erbyn dagrau, wrth iddynt egluro’r caledi y maent wedi’i brofi wrth geisio cael cais syml am gymorth i’w plant neu rywun annwyl. Fis Hydref diwethaf, yn ystod y ddadl flaenorol, pwysleisiais ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru a phob corff cyhoeddus arall yn cefnogi’r teuluoedd hyn sydd, o ddydd i ddydd, yn wynebu llawer o heriau, ac i beidio â chaniatáu i rwystrau fodoli i’r gefnogaeth honno. Mae’r teuluoedd hyn yn mynd i’r afael â’r heriau hyn hyd eithaf eu gallu ar ran eu hanwyliaid, a’n gwaith ni yw darparu mecanweithiau i’w helpu a chynnig cymorth, ac yn bendant, nid cynyddu eu caledi. Mae’r teuluoedd yn dweud wrthyf yn gyson am eu dicter a’u rhwystredigaeth o orfod parhau i ddadlau a mynnu cymorth i’w plant neu frodyr a chwiorydd, i gael y cymorth a’r gofal angenrheidiol ar gyfer helpu’r rhai sy’n byw ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ac i ddatblygu a gwella eu lles.

Rydym i gyd yn ymwybodol fod awtistiaeth yn anabledd gydol oes sy’n effeithio ar sut y mae pobl yn gweld y byd ac yn rhyngweithio ag eraill, ac rwy’n falch y bydd Bil Paul Davies yn ystyried nid yn unig y plant rydym yn aml yn siarad amdanynt, ond oedolion yn ogystal. Rwyf am i chi wybod, felly, fod y rhan fwyaf o’n gwaith achos yn canolbwyntio ar blant, ond gadewch i ni beidio ag anghofio’r heriau y mae oedolion ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig yn eu hwynebu. Mae llawer yn cael trafferth yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolion, gan wynebu ymyl clogwyn yn aml, yn yr ystyr fod y cymorth a gawsant yn blant yn dod i ben yn 18 oed.

Ac ar yr un pryd, maent yn edrych ar fyd gwaith, a’r heriau o ddechrau gweithio. Nid ydynt am dderbyn budd-daliadau lles ar hyd eu hoes. Mewn gwirionedd maent yn awyddus i gael gwaith, maent yn awyddus i ganfod eu ffordd eu hunain, ac yn awyddus i wella eu bywydau. Fodd bynnag, wrth iddynt wynebu heriau newydd, mae angen iddynt ddeall y gallwn gynnig cymorth i’r unigolyn, ond hefyd i’r cyflogwr yn ogystal—a soniodd Paul Davies am yr hyfforddiant. Mae angen i ni edrych ar ehangu’r meysydd hyfforddi, i ystyried yr agwedd honno hefyd, fel bod y cyfnod pontio i fywyd fel oedolyn yn dod ychydig yn llyfnach iddynt, heb beri cymaint o ofn a braw, fel y gwnaeth i gymaint o bobl yn yr achosion hyn.

A neithiwr, roeddwn yn y digwyddiad a gynhaliodd Jane Hutt yn y Senedd, pan siaradodd Andrea Wayman o Elite Employment Agency am ei gwaith yn yr elusen sy’n helpu pobl i gael gwaith. A thynnodd sylw at un enghraifft—sut y mae’n gweithio i bobl ifanc; sut y cafodd gymorth un i un ar gyfer dyn ifanc a oedd ag awtistiaeth, a bod cymorth un i un wedi caniatáu iddo ddatblygu yn y gweithle, yn y lleoliad gwaith, a meithrin yr hyder a oedd yn ofynnol. Ac fel y cyfryw, cafodd yr unigolyn ifanc hwnnw waith cyflogedig. Mae honno hefyd yn agwedd bwysig sy’n rhaid i ni beidio â’i hanwybyddu.

Gweinidog, gwn eich bod wedi tynnu sylw at y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith—cyflwyno strategaeth 2008, diweddariad y strategaeth honno, y cynllun cyflawni ar ei newydd wedd, a chyflwyno gwasanaethau awtistiaeth integredig cenedlaethol: £13 miliwn; rhoddais £7 miliwn, ond dywedai £13 miliwn—y cyfan yn wych. Maent i gyd yn gadarnhaol—nid oes amheuaeth am hynny—ond fel yr amlygodd Paul Davies, mae’r cynnydd yn anghyson ac yn araf. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod strategaeth o’r fath yn cael ei chyflawni gyda chysondeb gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, a’i bod yn darparu’r gwasanaethau a’r cymorth gorau posibl i bobl sy’n byw ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Ac rwy’n ofni nad wyf yn gweld hynny ar waith, na’r teuluoedd. Mae cynllun cyflawni, a chyflwyno gwasanaeth integredig Llywodraeth Cymru yn iawn, ond pan na fydd teuluoedd yn profi’r ddarpariaeth yn eu cymunedau, yna mae angen i ni gymryd camau pellach.

Rwyf wedi gofyn am eglurhad gan fy awdurdod ynglŷn â’i strategaeth awtistiaeth, a phwy yw ei hyrwyddwr awtistiaeth, ac yn anffodus, mae’r eglurhad yn araf yn dod. Ni ellir caniatáu i hyn barhau, ac mae’n rhaid inni roi gofynion ar waith, ac felly, efallai, yr angen am ddyletswyddau cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i baratoi strategaethau ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth a rhoi sylw priodol i’r strategaethau hynny wrth gyflawni eu cyfrifoldebau.

Nawr, rwy’n ymwybodol fod deddfau amrywiol wedi’u cyflwyno a allai helpu. Gwelsom gyfeirio hefyd at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd ar ei daith drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd. Y cwestiwn sy’n codi yw: a ydynt yn cyflawni ar gyfer y teuluoedd hyn? Ac a fydd y Bil newydd hwn yn cefnogi’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli eisoes, ac yn gwella trafferthion y teuluoedd hyn? Ac mae’n ddyletswydd arnom i ofyn y cwestiwn hwnnw. Ac os down i’r casgliad fod angen Bil o’r fath i wneud y sefyllfa’n well ar gyfer teuluoedd ar lawr gwlad, yna dylem gyflwyno rhwymedigaeth statudol a fydd yn dwyn pobl i gyfrif, a fydd yn eu cael i weithredu’n unol â hi, ac a fydd yn caniatáu i ni a theuluoedd ddwyn y cyrff hynny i gyfrif.

Ac rwy’n derbyn fod yna gyflyrau eraill sy’n bwysig, cyflyrau a ddylai fod yn sefyll ochr yn ochr ag awtistiaeth, ac efallai, yn y cyfamser, y bydd Paul Davies yn dymuno edrych i weld a oes modd ymestyn y Bil, cyflwyno Bil sy’n cwmpasu pob cyflwr niwroddatblygiadol. Ac rwy’n siŵr ei bod yn bryd i ni wneud hynny.

Nawr, y prynhawn yma, byddaf yn cefnogi’r cynnig hwn, a byddaf yn edrych ymlaen at weld ei uchelgais yn cael ei gyflawni, a’i gynnig o welliannau i’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Mae’n bwysig ein bod yn deddfu i bwrpas, ac y bydd unrhyw ddeddfwriaeth yn gwella bywydau’r rhai y mae’n eu targedu yng Nghymru. A byddaf yn cefnogi ac yn edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd.