Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i gynnig y cynnig pwysig hwn a gefnogir gan Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns a Mark Isherwood.
Rydym wedi dechrau ar daith yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i nodi a thrin pawb sydd â’r feirws a gludir yn y gwaed, hepatitis C. Yn y cynnig hwn heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailgadarnhau ei hymrwymiad i ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn 2030, y dyddiad a bennwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Ac rydym yn llongyfarch meddygon a nyrsys y GIG am y gwaith y maent eisoes wedi’i wneud ar drin a gwella nifer digynsail o bobl sydd â hepatitis C. Rydym hefyd yn galw am ganllawiau gweithredol newydd i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru i helpu staff meddygol y GIG yn y dasg anodd hon. Gwnaed cynnydd gwych eisoes ar alluogi mynediad teg a thryloyw at feddyginiaethau newydd mewn ffordd fforddiadwy a chyfrifol. Mae’r triniaethau newydd wedi’u cymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ac maent yn gosteffeithiol. Bydd pob claf yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at gyffuriau newydd gwrthfeirysol hynod o effeithiol, ac yn wir, cafwyd cyfradd wella o 95 y cant, sydd mor galonogol. Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan y grŵp feirysau a gludir yn y gwaed, a hoffwn dalu teyrnged iddynt hwy ac i Dr Brendan Healy, sef y meddyg ymgynghorol arweiniol. Dywedodd: ‘Rwy’n falch iawn o allu cynrychioli tîm mor anhygoel. Mae’r gwaith a’r ymdrech y maent wedi’i wneud yn aruthrol’. Mae fy nghysylltiad â’r grŵp hwn, rwy’n meddwl, o ddifrif yn dangos y GIG ar ei orau.
Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy’n effeithio ar yr afu. Mae 80 y cant o’r bobl a heintir yn datblygu hepatitis C cronig, sy’n gallu achosi sirosis angheuol a chanser yr iau os na chaiff ei drin. Yr amcangyfrif yw bod 240,000 o bobl wedi’u heintio’n gronig â hepatitis C yn y DU, ac mae oddeutu 12,000 o’r rhain yng Nghymru. Ond nid yw’r union ffigur yn hysbys oherwydd bod cymaint o bobl â’r haint heb wybod ei fod arnynt. Ac rydym yn gwybod ei fod yn effeithio’n arbennig ar bobl o gymunedau difreintiedig; daw bron hanner yr achosion o’r un rhan o bump tlotaf o’r gymdeithas.
Caiff hepatitis C ei drosglwyddo drwy gysylltiad â gwaed a heintiwyd. Ac mae’n wir fod y rhan fwyaf yn cael eu heintio ar ôl chwistrellu cyffuriau. Mae’r ffigurau diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn dangos bod 50 y cant o’r bobl sy’n chwistrellu cyffuriau yng Nghymru wedi’u heintio gan hepatitis C. Ond mae’r feirws hefyd yn effeithio ar y rhai a allai fod wedi cael gofal meddygol dramor, a phobl sydd wedi cael trallwysiad gwaed yn y DU cyn 1991, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys hemoffiligion, fel y gwn o fy ngwaith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig.
Mewn nifer o ffyrdd mae hepatitis C yn glefyd cudd oherwydd gall pobl fyw heb symptomau am ddegawdau ar ôl cael eu heintio. Rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod am achos Anita Roddick, a sefydlodd The Body Shop, gan na ddarganfu fod ganddi hepatitis C hyd nes 2004. Fe’i cafodd drwy drallwysiad gwaed ar ôl rhoi genedigaeth i’w merch yn 1971. Felly, roedd yn byw gyda’r clefyd hwn ers 30 mlynedd heb yn wybod iddi, a bu farw o gymhlethdod yn sgil clefyd yr afu yn 2007.
Rwy’n falch iawn o’r cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn yng Nghymru, diolch i arweiniad a chyllid Llywodraeth Cymru. Roedd cynllun gweithredu ar gyfer clefyd yr afu 2015 yn nodi cynllun i ddileu hepatitis C, ochr yn ochr â thrin mathau eraill o glefyd yr afu. Daeth llwyddiant mawr ym mis Medi 2015, pan gytunodd y Gweinidog cyllid, Jane Hutt, ar gyllid o £13.8 miliwn am gyffuriau newydd di-interfferon sofosbuvir, Harvoni a AbbVie. Defnyddiwyd yr arian i drin 466 o’r cleifion mwyaf sâl â hepatitis C, a gwellodd 432 ohonynt, gan gynnwys aelodau o’r gymuned hemoffilia yng Nghymru. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar fywydau’r bobl hyn, ac mewn gwirionedd cafodd yr hemoffiligion eu trin â’r cyffuriau newydd cyn eu cymheiriaid yn Lloegr, ac mae rhai o’r rheini’n dal i aros am help.
Un enghraifft o glaf yng Nghymru yw David Thomas, sy’n un o etholwyr Ysgrifennydd y Cabinet ac mae’n aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed halogedig. Daliodd hepatitis C drwy waed halogedig pan oedd yn ei arddegau yn y 1980au a bu’n byw gydag ef am 30 mlynedd, ond roedd yn un o’r rhai cyntaf i gael triniaeth gyda’r cyffuriau newydd, sydd wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr, ac wedi cael gwared ar gwmwl enfawr, fel y dywedodd.
Felly, yn amlwg, un o’r heriau yn awr yw argyhoeddi pobl a allai fod wedi cael triniaeth aflwyddiannus yn y gorffennol i ddod i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C gan ddefnyddio’r cyffuriau interfferon. Croesawaf y ffaith fod gan fyrddau iechyd £25 miliwn y flwyddyn bellach sy’n caniatáu i 900 o bobl y flwyddyn gael eu profi dros gyfnod o bum mlynedd. Rhaid i ni sicrhau bod yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i ariannu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â hyn. Cafodd mwy na 700 o bobl eu trin yn 2016-17, ond rwy’n deall mai’r broblem yn awr yw dod o hyd i’r bobl y mae angen cynnal profion arnynt ar y pwynt hwn. Nid oes unrhyw restrau aros i gael triniaeth ar hyn o bryd. Mae’r arian a’r cyffuriau yno, ond mae angen dod o hyd i’r 50 y cant o bobl sydd â hepatitis C heb yn wybod iddynt.
Yr her fawr arall a wynebwn wrth geisio cael gwared ar hepatitis C yw cyrraedd pobl nad ydynt yn ymwybodol o’r feirws am nad ydynt yn ymweld â’u meddygfa yn rheolaidd. Fel y dywedais, nid yw 50 y cant o’r bobl sydd â’r feirws wedi cael diagnosis eto yn ôl Ymddiriedolaeth Hepatitis C. Grwpiau eraill a allai fod mewn perygl yw pobl sy’n defnyddio’r gampfa ac sy’n cymryd cyffuriau i wella’u perfformiad; defnyddwyr cyffuriau sydd â hepatitis C; carcharorion sy’n cael eu profi yn ystod eu carchariad ond nad ydynt yn cael y canlyniadau mewn pryd cyn eu rhyddhau; ceiswyr lloches, mewnfudwyr a phobl ddigartref. Mae pawb sy’n gweithio i ddileu hepatitis C yn dweud mai un o’r problemau mwyaf yw’r stigma sydd ynghlwm ag ef, ac rwy’n falch iawn fod ymgyrch yn mynd i gael ei lansio yng Nghymru yma yn y Cynulliad ar 11 Gorffennaf i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Un ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg ymwybyddiaeth a’r stigma ynglŷn â hepatitis C yw drwy ddefnyddio mentoriaid cymheiriaid, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae angen rhaglen i addysgu gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ynglŷn â hepatitis C, nid aelodau’r cyhoedd yn unig, gan ei bod yn bwysig iawn fod meddygon teulu yn sylwi ar yr arwyddion ac yn argymell profion ac yn atgyfeirio pobl i gael triniaeth. Mae angen i fwy o weithwyr iechyd proffesiynol gael hyfforddiant. Mae angen targedau wedi’u cytuno’n genedlaethol a hyfforddiant mewn profion smotiau gwaed sych i fferyllfeydd. Gallai fferyllfeydd cymunedol chwarae rhan bwysig, yn ogystal â phrosiectau allgymorth cyffuriau a chanolfannau cyfnewid nodwyddau. Mae pob un o’r bobl sy’n ymwneud â thrin y feirws hwn a gludir yn y gwaed yn cytuno mai mynd i’r afael â’r mater yn y gymuned lle maent yn byw yw’r allwedd. Ceir llawer o enghreifftiau o sut i wneud hyn: er enghraifft, maent yn cynnal profion ar geiswyr lloches a phobl yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd; yn Tesco yn Fforestfach yn Abertawe, ceir ystafell gymunedol ar gyfer cynnal profion drws nesaf i gampfa, felly cynhelir profion ar ddefnyddwyr y gampfa; ac mae ffurflen ar gyfer gwella rheolaeth cleifion a chasglu data’n awtomatig yn cael ei datblygu yng Nghaerdydd ac mewn canolfannau eraill.
Mae’r cynnig hefyd yn galw am ystyried canllawiau gweithredol newydd er mwyn cynorthwyo staff y GIG sy’n gweithio i ddileu hepatitis C. Mae angen inni symleiddio’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â hyn. Mae angen inni ddefnyddio dulliau atgyfeirio electronig i gyflymu’r holl broses o gael pobl wedi’u trin. Hefyd, byddai’r staff meddygol yn hoffi gweld cynllun strategol penodol ar gyfer dileu hepatitis C, gyda’r holl elfennau wedi’u hariannu’n llawn, gan gynnwys cost profion labordy ychwanegol a chynnal profion yn y gymuned.
Hoffwn orffen, mewn gwirionedd, drwy ganmol y gweithwyr iechyd proffesiynol, y swyddogion iechyd y cyhoedd a’r mudiadau trydydd sector sydd wedi ymrwymo i’r fath raddau i drechu’r clefyd hwn a gludir yn y gwaed. Cafwyd symud cadarnhaol aruthrol yng Nghymru i gyrraedd y cam lle y gallwn ei ddileu. Rhyfeddodau gwyddoniaeth fodern, ynghyd ag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi sicrhau y bydd hyn yn digwydd. Ond mae angen cynnal profion ar fwy o bobl ac rwy’n credu y byddai pawb ohonom yn falch o weld pobl enwog proffil uchel yn dweud bod ganddynt hepatitis C i helpu i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â’r clefyd. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi dechrau ar y broses hon o ddileu hepatitis C, ac rwy’n gobeithio mai pen y daith fydd Cymru heb achosion o hepatitis C.