Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n hynod o falch o ymateb i’r ddadl heddiw gan yr Aelodau, a diolch i bobl am y modd ystyriol y maent wedi ymdrin â’r mater hwn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y mater hwn i bobl ledled Cymru, wrth gwrs, ac rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, gyda’r GIG, wedi gwneud camau mawr ymlaen yn trin a rheoli hepatitis feirysol, a chafodd nifer ohonynt eu cydnabod gan amryw o’r Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy’n falch o gael y cyfle i siarad ychydig yn fwy am hynny heddiw. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymrwymo i fynd i’r afael â baich feirysau a gludir yn y gwaed ers mwy na degawd. Ariannwyd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed gennym hyd at 2014, a gosodasom y sylfeini ar gyfer y gwasanaethau hepatoleg hyd yn oed yn fwy llwyddiannus sydd gennym yn awr.
Pan ryddhawyd y cyllid hwnnw, gwnaed hynny ar y ddealltwriaeth y byddai byrddau iechyd yn buddsoddi yn y gwasanaethau hyn ac yn datblygu adnoddau i atal a thrin hepatitis feirysol, ac rwy’n falch iawn fod gan Gymru rwydwaith hepatoleg clinigol cadarn ac effeithiol o dan arweiniad y Dr Brendan Healy, fel y dywedodd Julie Morgan yn ei chyflwyniad. Mae’r rhwydwaith yn cydlynu triniaeth y rhai y nodwyd eu bod â hepatitis B ac C. Rwyf am oedi yn y fan honno am ennyd i gydnabod, nid yn unig gwaith Dr Healy ond y rhwydwaith cyfan mewn gwirionedd, gan fod hyn yn rhywbeth nad oes gan gydweithwyr yn Lloegr mohono—nid oes ganddynt yr un ymagwedd unedig tuag at driniaeth, y ffordd y defnyddiwn driniaethau gwerth gorau, o ran cyllid a chanlyniad i’r dinesydd, ac mae rhai o’r cydweithwyr yn Lloegr yn edrych ar hyn gyda rhywfaint o, ni fyddwn yn dweud cenfigen yn unig, ond maent yn credu ei bod yn safon ac yn ymagwedd i anelu ati sy’n cael ei harloesi a’i harwain yn llwyddiannus gan ein clinigwyr yng Nghymru, ac mae’n bendant o fudd i gleifion yn hynny o beth. Mewn sawl ffordd mae’n fodel ar gyfer gwasanaethau ar draws y wlad—mae angen iddynt gydweithio a chydweithredu ar draws y wlad gyfan i gael dull unedig sy’n canolbwyntio mewn gwirionedd ar wella.
Cychwynnwyd y rhaglen hepatitis C i’w chyflwyno ar draws Cymru gyfan yn 2014, a rhan o hyn yw gwneud y defnydd gorau o’r don newydd o feddyginiaeth wrthfeirysol fwy effeithiol, yn enwedig meddyginiaeth ddi-interfferon, fel y dywedodd Julie Morgan. Dechreuodd hynny drwy fod yn ddrud iawn i’w drin ar y cychwyn, ond mewn gwirionedd, ceir arbedion sy’n llawer mwy hirdymor, yn ariannol, ond hefyd—i grybwyll fy etholwr Mr Thomas, sydd â theulu ifanc—gwelliant sylweddol o ran lles cyffredinol y bobl sy’n cael y driniaeth, ac nid yn unig yn yr ystyr feddygol, gyda chyfraddau gwella eithaf trawiadol i bobl yn sgil cyflwyno’r driniaeth yn llwyddiannus. Mae hynny wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.
Rydym wedi trin mwy na 1,000 o gleifion yn y 18 mis diwethaf, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn awr wedi trin yr holl gleifion y gŵyr y gwasanaethau yng Nghymru amdanynt ac sy’n dal i gael gofal. Mae hwnnw’n gam hynod ymlaen a wnaed gan ein gwasanaeth. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, fod yna unigolion sy’n wynebu risg o ddal hepatitis B ac C nad ydynt yn defnyddio lleoliadau gofal iechyd traddodiadol, ac mae nifer o brosiectau eisoes yn cael eu datblygu ledled Cymru i fynd i’r afael â hyn—a chafodd hyn eto ei gydnabod yn sylwadau pobl yn gynt yn y ddadl ar sut y cyrhaeddwn y bobl sy’n anodd eu cyrraedd ac nad ydynt bob amser yn defnyddio gwasanaethau gofal, naill ai’n unigol neu hyd yn oed yn gyson. Bydd y prosiectau hynny’n edrych ar ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth o haint hepatitis C, er mwyn darparu mynediad at brofion diagnostig symlach mewn lleoliadau cymunedol i’r rhai sy’n wynebu risg—ac unwaith eto, mae pwynt yma ynglŷn â datblygu ac nid sefyll yn llonydd yn ein gwasanaeth—a hefyd i sicrhau bod unigolion sydd wedi’u heintio yn gallu cael mynediad at driniaeth.
Mae’r prosiectau hyn, ynghyd â’r rhaglen hepatitis C a gyflwynir ar draws Cymru yn cael eu harwain a’u cyfeirio gan is-grŵp hepatitis feirysol Cymru y cyfeiriodd Julie Morgan ato, unwaith eto. Maent yn is-grŵp o’r grŵp gweithredu ar glefyd yr afu—un o’n teitlau byr a bachog unwaith eto yn y byd iechyd. Ond pwysigrwydd y grŵp hwn—ac mae’n wirioneddol bwysig—yw ei fod wedi’i ffurfio o glinigwyr, nyrsys arbenigol, cynrychiolwyr cleifion, y trydydd sector, fferyllwyr, staff labordy, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, staff diogelu iechyd a swyddogion Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, dyna un o nodweddion ein dull o weithredu yma yng Nghymru—mynd ati o ddifrif i fanteisio ar y ffaith y dylem, fel gwlad fach, allu dwyn ynghyd y grŵp cywir o bobl yn yr un ystafell i wneud dewisiadau gwirioneddol genedlaethol a disgwyl wedyn i hynny gael ei ddatblygu a’i ddarparu ar sail genedlaethol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi arwain ar y gwaith hwn ar draws pob sector ac sydd wedi cyfrannu at lwyddiant gwirioneddol y rhaglen hyd yn hyn.
Ar 28 Mai y llynedd, mabwysiadodd Cynulliad Iechyd y Byd, y corff sy’n gwneud penderfyniadau yn Sefydliad Iechyd y Byd, strategaeth sector iechyd fyd-eang ar gyfer hepatitis feirysol. Cyflwynodd y strategaeth honno y targedau byd-eang cyntaf erioed ar gyfer rheoli hepatitis B ac C feirysol, gan gynnwys y nod o gael gwared ar hepatitis feirysol erbyn 2030. Bydd cyflawni’r targedau hyn yn golygu bod diagnosis a thriniaeth hepatitis feirysol yn cael eu blaenoriaethu yn y gwasanaethau iechyd cyhoeddus.
Mae’n bleser gennyf gadarnhau eto heddiw wrth yr Aelodau fod Cymru wedi cytuno ac wedi ymrwymo i darged Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis B ac C. I adlewyrchu hyn, mae is-grŵp hepatitis feirysol Cymru wedi diwygio ei gylch gwaith ei hun i adlewyrchu’r arweiniad a’r canllawiau a fydd yn ofynnol ganddo er mwyn sicrhau bod y targedau dileu yn cael eu cyrraedd. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd aruthrol yn erbyn y targedau hyn, ac mae’r is-grŵp yn datblygu fframwaith drafft o’r camau gweithredu y bydd eu hangen dros y blynyddoedd nesaf i gyflawni ein nod. Bydd swyddogion yn y Llywodraeth yn derbyn y fframwaith drafft y mis hwn. Rwy’n disgwyl iddynt gynnwys ystyriaeth o sut i ganfod a chynnal profion ar grwpiau anodd eu cyrraedd; profion a thriniaeth mewn lleoliadau cymunedol; a sicrwydd y bydd pawb sydd â’r haint yn cael cyfle i gael profion a thriniaeth. Bydd y fframwaith yn darparu’r sylfaen i ganllawiau ar y camau nesaf, a fydd yn cael eu dosbarthu i’r GIG yn ystod yr haf.
Mae gennym yr hyn sydd ei angen yma yng Nghymru i atal hepatitis B ac C, ac mae gan Gymru, ymhlith gwledydd eraill y DU, agenda ataliol gref. Mae gennym raglenni brechu effeithiol ac wedi’u targedu ar gyfer hepatitis A a B, ac mae’r nifer sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd yn 95 y cant. O fis Medi eleni, bydd brechlyn hepatitis B yn cael ei ymgorffori yn y rhaglen arferol ar gyfer babanod, a chaiff ei gynnig i fabanod yn ddau, tri a phedwar mis oed. Mae pob menyw feichiog yn cael cynnig profion hepatitis B fel rhan o’r drefn sgrinio cyn-geni, ac mae pob baban a enir i famau sy’n cael canlyniad positif ar gyfer hepatitis B yn cael eu trin yn unol â chanllawiau clinigol. Rydym yn gallu atal feirws hepatitis B rhag cael ei drosglwyddo o fam i blentyn yn effeithiol drwy roi brechiad feirws hep B amserol adeg yr enedigaeth.
Fel y crybwyllodd Hefin David, mae gennym raglen gyfnewid nodwyddau eisoes sydd wedi’i sefydlu’n dda mewn fferyllfeydd cymunedol, gan sicrhau mynediad at gyfarpar chwistrellu di-haint a thriniaeth effeithiol ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau er mwyn atal a rheoli epidemigau o hepatitis B ac C feirysol. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion parhaus o drosglwyddo hepatitis C ar hyn o bryd yn digwydd ymhlith pobl sy’n chwistrellu cyffuriau, ac felly rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o ganfod unigolion â hepatitis C yn y cymunedau hyn a darparu triniaeth.
I’r rhai sydd eisoes wedi’u heintio, mae meddyginiaethau drwy’r geg a oddefir yn dda a gweithdrefnau triniaethau newydd i bobl â haint feirws hepatitis C cronig yn gweld cyfraddau gwella o dros 90 y cant, fel y crybwyllodd Julie Morgan yn ei sylwadau. Ac mae’r driniaeth effeithiol honno ar gael hefyd i bobl â haint feirws hepatitis B cronig hefyd, er bod angen i driniaeth o’r fath bara drwy gydol oes y rhan fwyaf o bobl. Mae llethu’r feirws yn cyfyngu ar y niwed i’r afu, ac yn aml, niwed i’r afu sy’n peri i bobl golli eu bywydau. Mae’r triniaethau hyn yn lleihau’r perygl o gymhlethdodau hirdymor yn sgil hepatitis B ac C, yn cynnwys sirosis a chanser yr afu. O ganlyniad, caiff y gost i’r GIG ei lleihau, gan fod y cyflyrau hyn yn ddrud iawn i’w rheoli. Mae hefyd yn lleihau’r galw am drawsblannu’r afu—sydd unwaith eto yn llawdriniaeth gostus a chymhleth ac yn adnodd y mae galw mawr amdano. Mae’r data diweddaraf yn awgrymu ein bod o leiaf yn gweld tuedd ar i lawr yn nifer y trawsblaniadau afu a marwolaethau. Rydym yn ffodus yng Nghymru fod gennym wasanaethau ardderchog ar y cyfan, gydag arbenigedd profedig i arwain a chefnogi hyn, ac y gall y rhai sy’n wynebu risg fod yn hyderus y manteisir ar bob cyfle i ddarparu ar gyfer eu gofal. Byddaf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd drwy’r is-grŵp hepatitis feirysol, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwaith hwn.