Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 14 Mehefin 2017.
Mae’n bleser i godi ac i gloi’r ddadl yma, sydd wedi bod yn ddadl arbennig. A allaf i longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan? Ac wrth gwrs, beth sydd o’n blaenau ni ydy hanes llwyddiant ysgubol yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Nôl yn y dyddiau pan oeddwn i’n fyfyriwr meddygol ifanc, llachar—cwpwl o flynyddoedd yn ôl—roeddem ni’n sôn am hepatitis A, hepatitis B ac wedyn hepatitis ‘non-A’ a ‘non-B’. Ers hynny, rydym ni wedi darganfod sawl firws arall: hepatitis A, B, C, D, E—gwahanol is-grwpiau o’r rheini i gyd.
A hefyd, nid yn unig rydym ni wedi darganfod mwy o fathau, ond rydym ni wedi gallu eu trin nhw hefyd. ’Slawer dydd, roeddem ni’n darganfod llid ar yr afu—hepatitis—ond nid oeddem ni’n gallu gwneud unrhyw beth amdano fe; nid oedd yna driniaeth. Mae’r tirlun wedi newid yn syfrdanol, ac weithiau yng nghanol yr holl gwyno sy’n mynd ymlaen ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd ac ati, rydym ni’n anghofio’r pictiwr mawr: mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen yn y cefndir. Mae’r gallu gyda ni rŵan i gael gwared â hepatitis C a hepatitis B. Mae’r dechnoleg gyda ni, ac mae’r cyffuriau gyda ni.
Rydw i’n falch bod fy nghyd-Aelodau am gefnogi’r cynnig sydd gerbron, sydd yn naturiol yn llongyfarch staff y gwasanaeth iechyd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau eu hymrwymiad—ac rydw i’n clywed geiriau’r Ysgrifennydd Cabinet, ac rydw i’n diolch iddo fe o waelod calon amdanyn nhw—a hefyd yr ystyriaethau eraill sydd gerbron. Felly, i ddechrau, rydw i’n diolch i Julie Morgan am ei hamlinelliad gwych o’r clefyd yma ar y dechrau, a hefyd yn ei llongyfarch hi ar ei gwaith fel cadeirydd y grŵp haemoffilia. Wrth gwrs, mae nifer o’r ffactorau yn fan hyn yn trawstorri’r ddau bwnc, megis. Ac rydw i hefyd yn llongyfarch Mark Isherwood ar ei gyfraniad yntau, a Rhun hefyd.
Ac wrth gofio am gyfraniad Hefin David, ie, mae hi yn gallu cymryd sawl blwyddyn i’r clefyd yma ddod i’r amlwg, achos mae o yn glefyd annelwig—mae e’n anodd iawn. Rydych chi’n gallu cwestiynu a chwestiynu pobl, ac nid yw pobl yn cofio os ydyn nhw wedi cael rhyw amser pan oedden nhw gyda blinder mawr, affwysol. Nid ydym ni’n cofio. Mae pethau’n mynd nôl yng nghymylau amser, mae pethau’n mynd yn angof. Ac wedyn, mae hi yn anodd gwneud y diagnosis, yn aml, os nad ydych chi’n canolbwyntio ar y bobl hynny, fel sydd wedi cael ei olrhain gan nifer ohonoch chi: carcharorion, y sawl sy’n brechu cyffuriau ac ati. A dyna pam mae’r rhaglenni yna sydd yn darparu nodwyddau glân mor allweddol i gael gwared ar y clefyd yma—ac fe wnaeth hynny gael ei olrhain hefyd gan Hefin David.
A gaf i ddiolch hefyd i Caroline Jones ac i Dawn Bowden am eu cyfraniadau, a hefyd wrth gwrs, fel rydw i wedi cyfarch eisoes, i’r Ysgrifennydd Cabinet am olrhain y drefn arbennig sydd gyda ni yma yng Nghymru? Mae Cymru ar y blaen, rŵan. Rydym ni, yn eithaf aml, yn cymharu ein hunain yn anffafriol yn y wlad yma gyda gwledydd eraill, ond mae Cymru ar y blaen pan mae’n dod i faterion fel hepatitis C. Achos mae’n aros yn her, er ein bod ni’n gallu cael gwared ohono fe. Achos, fel rydym wedi clywed eisoes, rydym yn trin y bobl yna yr ydym wedi eu hadnabod eisoes. Y pwynt yw, nid ydym yn adnabod 50 y cant o’r bobl. Hynny yw, mae yna waith i’w wneud i adnabod a darganfod y bobl sydd â’r clefyd yma.
Mae’n rhaid inni fynd i’r afael efo’r stigma ac mae’n rhaid inni gael gafael—. Hynny yw, mae pobl ofn, weithiau, dod i weld meddyg achos mae gyda nhw fywydau sydd yn anodd, yn ddi-drefn, a hefyd maen nhw’n credu bod pobl yn mynd i’w beirniadu nhw am beth maen nhw wedi’i wneud yn y gorffennol. Felly, mae yna her yn y fan yna i ni fynd i’r afael efo’r systemau yna i gyd.
Ond, yn y bôn, pan fydd rhywun yn gallu cyplysu blinder affwysol efo’r posibilrwydd eu bod nhw wedi cael eu heintio gan waed halogedig, mae’n rhaid inni feddwl am y posibilrwydd bod llid ar yr afu math C gyda nhw. Dyna yw’r her i ni fel meddygon a nyrsys: i fod yn ymwybodol o hynny. Ond, hefyd mae yna her, unwaith ein bod ni’n darganfod pobl, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n parhau efo’r driniaeth. Pan mae gyda chi fywyd anodd, sy’n llawn heriau, yn llawn anhrefn, mae’n anodd cadw i fyny efo’r driniaeth hefyd.
Mae yna sawl her, ond, gan groesawu’r cyfraniadau i gyd yr ydym wedi eu clywed y prynhawn yma, a hefyd croesawu ymateb y Llywodraeth, mae’r wlad yma ar y blaen pan mae’n dod i faterion yn ymwneud â hepatitis C. Mae’r dechnoleg gyda ni, mae’r triniaethau gyda ni, ac awn amdani. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.