Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy’n falch o godi yn y ddadl bwysig yma ar y ddogfen hardd yma, ‘Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’, ac, fel mae’r Cadeirydd doeth, cadarn, aeddfed—Bethan yn fan hyn—wedi crybwyll eisoes, dechrau ar y daith yr ŷm ni yn fan hyn nawr, achos—. A’r cefndir, yn naturiol, ydy’r portread o Gymru ar ein rhwydweithiau, fel y BBC ac ITV ac ati. Ac wrth gwrs, y cefndir ydy nid ydym ni’n credu bod yna fawr o bortread o Gymru—mae yna le i gael llwyddiant syfrdanol. Mae pobl wastad wedi dweud wrthych ar stepen drws, gan ein bod ni wedi bod ar stepen ambell ddrws yn ddiweddar, yn cwyno am ddiffyg sylw Cymru yn gyffredinol—‘Cymru wastad yn cael ei hanwybyddu’, yr oeddwn i’n ei glywed yr wythnos diwethaf. Ac, wrth gwrs, rhan o hynny ydy’r diffyg sylw penodol i Gymru ar y BBC ac ati, ond hefyd y ffaith bod y cyfrwng printiedig, ein papurau newydd ni, mor affwysol o wan yma yng Nghymru hefyd. Nid oes yna braidd neb ar ôl sydd yn dal i ddarllen y ‘Western Mail’ ac ati.
Nawr, yn nhermau—. Gan ein bod ni yn nodi’r adroddiad yma yn y cynnig, gwnaf i lynu wrth yr adroddiad a chanolbwyntio ar argymhellion 1, 2 a 3. Mae Bethan wedi cyfeirio eisoes at yr angen i wario mwy o bres yma ar ran y BBC. Fe fuon ni i gyd rownd stiwdios y BBC yma, dros y ffordd, ac mae’n hyfryd gweld yr holl arian sy’n cael ei wario ar wneud ‘Casualty’ a ‘Meddyg Pwy’— ‘Doctor Who’—ond nid yw e wastad yn glir o’r rhaglenni yna eu bod nhw’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru o gwbl, a dweud y gwir. Rydw i wedi gwneud y pwynt o’r blaen: nid fy mod i’n gofyn am daleks dwyieithog, ond efallai, o bryd i’w gilydd, dylai’r rhaglenni yna o leiaf olrhain eu bod nhw yng Nghymru. Achos mae pob ysbyty arall yng Nghymru efo arwyddion dwyieithog, megis; gallai’r ysbyty yn ‘Casualty’, efallai, adlewyrchu’r wlad lle mae’n cael ei wneud. Mae’r pwynt yna’n bwysig achos rydym ni’n colli pres, fel mae Suzy newydd ddweud, ar bortreadu Cymru yn yr iaith Saesneg achos efallai ei fod e’n cael ei wario yn y fan hyn. Mae angen mwy o bwyslais ar bortreadu Cymru yn yr iaith Saesneg. Fe ddof i nôl at hynny os bydd yna amser.
Yn y bôn, mae angen mwy o bwyslais ar bortreadu Cymru neu fe fydd yna ganlyniadau. Rydym ni wedi cael y canlyniadau, megis yn y refferendwm Brexit y llynedd, sef nad oedd yna fawr neb o’n trigolion yn sylweddoli bod Cymru yn elwa o fod yn aelod o Ewrop. Buasai gwasg a phortreadu mwy clyfar, gwir o beth sy’n digwydd yma yng Nghymru wedi ei gwneud yn eglur taw’r syniad gorau buasai pleidleisio i aros i mewn yn Ewrop. Roedd y rhan fwyaf o’n pobl yn dilyn yn llafurus iawn y wasg brintiedig a’r cyfryngau torfol sy’n deillio o Lundain. Ac wrth gwrs, fel y mae’r Cadeirydd eisoes wedi dweud, mae mwy o bobl yn gwrando ar Radio 1 a Radio 2 yng Nghymru na sydd, yn anffodus, yn gwrando ar Radio Cymru neu Radio Wales. Efallai y buasai’n syniad petai Radio 1 a Radio 2 yn eu slot newyddion yn sôn am Gymru rhywbryd. Slot bach a fyddai’n neis, ontefe, yn lle ein hanwybyddu ni yn gyfan gwbl. Dyna her i’r BBC, felly. Achos y tro diwethaf roedd y meddygon iau ar streic—ac mi fuon nhw ar streic cwbl o weithiau y llynedd—roedd pobl sydd ddim yn arfer gwrando ar ein cyfryngau ni yma yng Nghymru, fel rhai o’n meddygon iau ni yn Ysbyty Treforys, yn credu eu bod nhw ar streic hefyd. Wrth gwrs, rydym ni mewn gwlad wahanol yn y fan hyn, ac nid oedd ein meddygon ni ar streic. Felly, dyna pam mae angen darparu’r wybodaeth iawn neu fe fydd pobl yn camgymryd.
Dathlwn fodolaeth S4C, yn naturiol. Rydym ni’n cefnogi’u bwriad nhw i esblygu yn aml-blatfform. Mae’n adlewyrchu Cymru yn y Gymraeg. Dyna pam mae’n bwysig bod gennym ni ryw fath o blatfform sy’n adlewyrchu Cymru yn yr iaith Saesneg, ac mae hynny yn dal yn ddiffygiol.
Yn nhermau amser, gwnaf orffen efo bwriad y BBC i gael gwared ar ‘The Wales Report’. Sut mae hynny’n mynd i wella’r portread o Gymru, beth sy’n digwydd yn y fan hyn, ein gwleidyddiaeth ni, yr ‘issues’ rydym ni’n eu trafod o hyd, a phan fydd pobl yn dweud, ‘Smo ni’n gwybod pwy sydd yn y Senedd. A ydych chi’n Aelod o’r Cynulliad? ‘Smo ni’n gwybod’? A beth yw’r adwaith? Cael gwared ar ‘The Wales Report’. Gwarthus. Mae angen ailedrych ar hynny, achos mae pobl yn cwyno allan fanna nad ydyn nhw’n gwybod beth rydym ni’n ei wneud. A beth sy’n digwydd? Rydym ni’n cael gwared ar un rhaglen sy’n dweud wrth bobl beth rydym ni’n ei wneud.
Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.