Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd, ac nid wyf am ddilyn esiampl fy nghyd-Aelodau a chanu clodydd gwaith ein pwyllgor ein hunain—mater i eraill ffurfio barn yn ei gylch yw hwnnw. Mae’n werth atgoffa ein hunain pam ein bod wedi cychwyn ar y gwaith hwn a’r cefndir braidd yn ddigalon pan aethom ati i ddechrau ar ein gwaith. Mae toriad o 22 y cant wedi bod dros y 10 mlynedd diwethaf yn nifer yr oriau o raglenni Saesneg a ddarlledwyd gan BBC Cymru, toriad o 24 y cant i gyllid S4C a thoriad o 40 y cant i gynnyrch ITV Cymru yn 2009. Cynhwyswch y cythrwfl a’r tirlun newidiol yn y cyfryngau print ac ar-lein ac fel y mae llawer o bobl eraill wedi dweud, nid yw Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda. Er nad yw darlledu yn fater a ddatganolwyd, mae’n effeithio’n ddwfn, nid yn unig o ran galluogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â sut y caiff ein cenedl ei rheoli, ond hefyd o ran adrodd straeon wrthym ein hunain ynglŷn â’n cymunedau ein hunain ac wrth y byd yn ehangach, sy’n hanfodol, rwy’n meddwl, i wead diwylliannol unrhyw wlad.
Mae fy nghyd-Aelodau wedi gwneud sylwadau deheuig ar brif fyrdwn yr adroddiad, felly nid wyf am oedi gormod gyda hynny. Roeddwn eisiau canolbwyntio’n bennaf ar un maes. Rydym yn eithaf da am gicio’r BBC a’u gwneud yn atebol, a chredaf fod hynny’n gwbl gywir, ond un o’r pethau a oedd yn bwysig am yr adroddiad hwn oedd ei fod yn rhoi sylw i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill hefyd, y credaf eu bod wedi llwyddo i osgoi craffu’n ddigonol ar wleidyddiaeth Cymru, ac mae angen i hynny newid. Ac mae’r adroddiad hwn, gobeithio, yn anfon neges y bydd yn gwneud hynny.
Mae Channel 5, er enghraifft, yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael budd o’r tonnau awyr a gawsant gan bobl y wlad hon: ni allem ddod o hyd i unrhyw gynnwys gweladwy am Gymru. Channel 4, dim ond 2 y cant—2 y cant—o’u rhaglenni darllediad cyntaf a oedd yn tarddu o Gymru. Ac ITV. Dylwn ddatgan buddiant fel rhywun a arferai weithio yn ITV, a rhywun sydd â hoffter o’r sefydliad a pharch tuag at y gwaith y dylent ei wneud. Nid beirniadaeth o ITV Cymru yw hon, ond her i ITV ccc, a wnaeth weiddi blaidd, rwy’n meddwl, yn ôl yn 2007 pan oedd refeniw hysbysebu i’w weld yn fregus. Mae’n deg dweud bod yr effaith a gafodd rheoliadau Ofcom arnynt yn golygu na chawsant eu lleihau, byddent yn troi cefn ar ddarlledu rhaglenni gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, ond gwrandawodd gwleidyddion a rheoleiddwyr ar yr alwad honno, a chafodd eu gofynion eu lleihau’n ddramatig—fel y soniais yn gynharach, gostyngiad o 40 y cant. Yn awr nid yw ond yn ofynnol iddynt ddarlledu pedair awr o newyddion bob wythnos, a 90 munud o gynnwys heb fod yn newyddion. Maent yn gwario oddeutu £7 miliwn y flwyddyn—er nad ydynt yn cyhoeddi’r ffigurau hyn, dyna a gadarnhawyd ganddynt i’r pwyllgor ei fod at ei gilydd yn gywir—ffigur sydd wedi bod, fel y maent yn ei roi, fwy neu lai yr un fath ers 2008. Felly, ers torri 40 y cant oddi ar eu rhwymedigaethau, nid ydynt wedi gwario unrhyw arian ychwanegol ar Gymru, er eu bod wedi gallu rhyddhau rhywfaint o arian o ddatblygiadau technolegol. Ond nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da.
Pan edrychwch ar elw ITV ccc, yn 2007 roedd yn £137 miliwn, a’r llynedd roedd yn £448 miliwn. Felly, cynnydd syfrdanol yn elw’r rhiant gwmni yn gyfnewid am gyfyngu amlwg ar yr ymrwymiad i Gymru. Dywedasant wrthym nad oes unrhyw werth dros ben yn y trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus, sef yr un dacteg eto ag y ceisiasant ei defnyddio yn 2007—nad yw’n awgrym ofnadwy o gynnil y byddent, pe baem yn gofyn iddynt wneud gormod, yn troi cefn a ninnau’n dlotach o’r herwydd. Ac fe fyddem yn dlotach heb bresenoldeb ITV Cymru, gan eu bod yn cynnig lluosogrwydd i ddarlledu yng Nghymru. Maent yn cynnig naws wahanol a ffocws gwahanol i’r hyn a geir gan BBC Cymru, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny, ond rwy’n credu bod gennym hawl i ofyn am ragor ganddynt yn y ffordd y maent yn rhoi sylw i Gymru.
Nawr, maent yn cyfeirio at eu llwyddiant BAFTA eleni, ac rydym yn eu llongyfarch am eu rhaglen ragorol ar Aberfan. Ond y tu hwnt i hynny, ychydig iawn o sylw y mae ITV fel rhwydwaith—ac unwaith eto, rhaid imi wahaniaethu rhwng ITV Cymru ac ITV fel rhwydwaith—yn ei roi i Gymru. Ychydig iawn o raglenni a geir ar gyfer y DU gyfan am Gymru. Yr enghraifft olaf a roesant i ni oedd yn 2014 pan ddarlledwyd y rhaglen am Dylan Thomas, ac maent yn mynd i gael trafferth yn y dyfodol gan nad oes gennym lawer o ddyddiadau arwyddocaol ar y gorwel. Mae gwir angen iddynt ymestyn eu dychymyg. Maent wedi dweud nad oes unrhyw rwystrau fel y cyfryw; roeddent yn awgrymu ei bod yn feritocratiaeth—nid oes syniadau digon da yn dod gan gomisiynwyr yng Nghymru. Wel, profwyd bod y ddadl hon yn ffug gyda’r BBC, lle roeddent wedi methu cyflawni dros Gymru am gyfnod hir, ac rydym bellach, drwy’r drwydded newydd, wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud rhagor. Ac rwy’n credu bod angen inni ei gwneud yn ofynnol i ITV wneud rhagor hefyd, gan ei bod yn amlwg mai’r un peth a gawn ganddynt os ydym yn gadael llonydd iddynt. Felly, mae’r pwyllgor wedi argymell bod Ofcom yn adolygu trwydded ITV ar ei chanol i ofyn iddynt gyflawni mwy dros Gymru. Dyna ein neges, Llywydd, i’r holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, nid y BBC yn unig—down yn ôl atynt cyn bo hir: rydym yn disgwyl gwell. Diolch.