Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Part of QNR – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

Mae cael sector addysg uwch sy’n ffynnu yn hanfodol i les a ffyniant Cymru yn y dyfodol. Bydd y diwygiadau a gyhoeddais ym mis Tachwedd mewn ymateb i Adroddiad Diamond yn creu sector addysg uwch mwy cynaliadwy yng Nghymru. Bydd hefyd yn cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i fyfyrwyr.