Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 20 Mehefin 2017.
Gallwn ddweud yn ddireidus ei fod wedi defnyddio’r gair 'gwastraffu' yn y DU, ond roedd yn golygu 'codi', rwy'n gwybod hynny. Mae'n gwneud pwynt da. Hynny yw, mae'n hynod bwysig bod pobl yn deall yr hyn sy'n digwydd yma a bydd cynllun cyfathrebu ar waith i hysbysu pobl am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd y flwyddyn nesaf ac yn wir yn y flwyddyn ganlynol. Mae'n hynod bwysig bod hynny’n cael ei wneud, nid yn unig drwy’r cyfryngau traddodiadol ychwaith. Gwelsom yn yr etholiad cyffredinol bod cyfryngau fel Facebook yn ôl pob tebyg yn fwy grymus na'r papurau newydd tabloid am y tro cyntaf erioed. Felly, bydd amrywiaeth eang o gyfryngau yn cael eu defnyddio i gyfleu’r neges.