<p>Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:15, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi’n ddiweddar am annigonolrwydd cysylltiadau cludiant cyhoeddus rhwng Cwm Cynon a Chaerdydd ar y Sul, gydag, er enghraifft, gwasanaethau anaml yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, yn y brifddinas a dim ond ymhellach i lawr Cwm Cynon ei hun. O dan metro de Cymru, neu unrhyw fasnachfraint reilffyrdd ddiwygiedig yn y dyfodol, sut gallwn ni wneud yn siŵr nad yw hyn yn wir a bod cyfleoedd priodol ar gael i ddefnyddio cludiant cyhoeddus ar y Sul?