Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 20 Mehefin 2017.
Wel, yn amlwg, mae Jenny Rathbone yn codi pwynt pwysig iawn, y gwn y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet nid yn unig yn rhoi sylw iddynt, ond bydd cwestiynau pellach yn ei ddatganiad o ran, nid yn unig camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn tân trasig Tŵr Grenfell, ond hefyd o ran yr adolygiadau y bydd yn rhaid eu cynnal ac, yn wir, cwmpas yr ymchwiliad cyhoeddus, sy'n cael ei lansio. Ond mae'n bwysig eich bod chi wedi codi'r pwynt heddiw.