Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 20 Mehefin 2017.
Yfory, mae cynnig gan Blaid Cymru sy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynnu cael ei gydnabod fel senedd genedlaethol Cymru—ac eithrio, mae’n ymddangos, o ran mabwysiadu ymagwedd gyson tuag at Reolau Sefydlog, yn enwedig pan eu bod yn anghyfleus—[Torri ar draws.] Yn enwedig pan eu bod yn anghyfleus i Blaid Cymru—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?