4. 3. Datganiad: Diogelwch Tân yng Nghymru — Y Camau sy’n Cael eu Cymryd yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:57, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Bydd yr Aelod yn gwybod ein bod eisoes yn ariannu grwpiau cyfranogi tenantiaid i adrodd yn ôl i’r Llywodraeth a hefyd i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynglŷn â sut mae hynny’n gweithio. Eisoes, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gweithio'n agos iawn gyda'u grwpiau, yn annibynnol ar y grwpiau cyfranogiad tenantiaid, yn ychwanegol at hynny.

Natur y cynllun chwistrellu—mae’r Mesur Chwistrellu a gyflwynon ni yn y Cynulliad yn 2011 wedi effeithio ar rai adeiladau. Yr hyn fydd angen ei wneud gyda’r adeiladau y soniodd yr Aelod amdanyn nhw yw ôl-osod, ac nid yw hyn yn rhan o’r Mesur. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi gofyn i'r arolygydd tân edrych arno’n benodol.

Gwrandewais yn ofalus ar bwyntiau Jenny ynghylch yr arolygwyr annibynnol, ac ar eich cyfraniad chi hefyd. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr arolygwyr annibynnol yn gweithredu'n amhriodol yn eu trefn arolygu. Os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth o hynny, byddai gennyf ddiddordeb mawr yn y manylion hynny, ond rwyf wedi nodi'r sylwadau a byddaf yn gofyn i fy nhîm edrych ar hynny yn benodol.