Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 20 Mehefin 2017.
A gaf i hefyd gydymdeimlo â’r rhai a gollodd eu bywydau ac a gollodd eu cartrefi yn Nhŵr Grenfell, sy’n enghraifft o'r hyn sy'n digwydd pan fydd cymdeithas yn methu ag amddiffyn y mwyaf di-rym yn y man lle y dylen nhw deimlo fwyaf diogel? Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau sydd gen i wedi eu hateb. Mae gen i ddau gwestiwn ar ôl. Yn gyntaf, pa drefniadau fydd ar waith rhwng Llywodraeth Cymru ac ymholiad Llywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael mynediad amserol i dystiolaeth a roddwyd i'r ymchwiliad hwnnw, fel bod modd dysgu gwersi wrth iddyn nhw godi? Yn ail, pan ganfyddir pwy oedd ar fai yn y gadwyn a achosodd hyn, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ganfod a yw’r partïon hynny wedi bod yn rhan o unrhyw gaffael cyhoeddus yng Nghymru?