Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am ei adroddiad ar ein rhaglen i ddileu TB. Ymatebais yn ffurfiol i'r adroddiad y bore yma, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld bod argymhellion y pwyllgor yn unol â'n cynigion, yr ymgynghorwyd arnynt yn hwyr y llynedd.
Gan adeiladu ar y cynnydd sydd wedi bod dros y naw mlynedd diwethaf, mae llawer ohonoch yn gwybod am yr effaith ariannol a chymdeithasol sylweddol y mae TB mewn gwartheg yn ei chael ar deuluoedd sy’n ffermio, ar eu busnesau nhw ac ar yr economi wledig. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'r clefyd hwn i ddiogelu dyfodol y diwydiant a diogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid. Roedd yr ymgynghoriad yn destun bron i 1,000 o sylwadau, ac rwyf am ddiolch i bawb a wnaeth ymateb. Roedd llawer yn cytuno bod angen dull mwy rhanbarthol o weithredu, ac felly, yn ddiweddarach eleni, byddaf yn pennu ardaloedd TB isel, canolradd ac uchel.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd gwirioneddol. Mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng dros 40 y cant ers uchafbwynt yn 2009 ac erbyn hyn y mae’r nifer yn is nag y bu mewn 12 mlynedd. Trwy gynnal mwy o brofion, rydym yn awr yn canfod gwartheg heintiedig ynghynt, a bellach tua 5 y cant o fuchesi sydd â TB. Bydd y dull rhanbarthol yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes ac yn cyflymu’r cynnydd a wneir tuag at gael Cymru sy’n rhydd o TB.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi dogfen y rhaglen i ddileu TB Cymru a'r cynllun cyflenwi cyntaf, sy'n darparu manylion y rheolaethau seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn berthnasol i bob rhanbarth. Nid yw’r clefyd wedi sefydlu yn yr ardal TB isel yn y gogledd. Yma, mae bod yn rhydd rhag TB o fewn cyrraedd yn y tymor byr i’r canolig. Bydd statws heb TB yn hybu cyfleoedd i fasnachu ac yn golygu y bydd angen profion TB yn llai rheolaidd ar fuchesi, gan leihau’r costau i ffermwyr a'r Llywodraeth. Mae ein tystiolaeth yn dangos mai symudiadau gwartheg i mewn i'r ardal yw prif yrrwr y clefyd sy’n digwydd yno ac felly, o 1 Hydref eleni ymlaen, bydd profion ar ôl symud yn cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn helpu i warchod yr ardal drwy nodi anifeiliaid sydd wedi'u heintio ar y cyfle cyntaf, cyn iddyn nhw fynd yn eu blaenau i heintio eraill. Mae'r dystiolaeth yn dangos mai symudiadau gwartheg o ardaloedd TB uwch cyfagos yw un o brif yrwyr clefyd yn yr ardaloedd canolradd. Bydd profion ar ôl symud, felly, yn cael eu cyflwyno yn yr ardaloedd canolradd yn hwyr y flwyddyn nesaf.
Y flaenoriaeth ar gyfer yr ardaloedd TB uchel yw parhau i leihau nifer yr achosion TB a difrifoldeb pob achos. Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd am adborth ar gynnig i gyflawni profion ar fuches bob chwe mis yn hytrach na phob blwyddyn. Mae profion bob chwe mis wedi bod o fudd yn yr ardal triniaeth ddwys, lle mae’r driniaeth fwy aml yn canfod 22 y cant o'r holl fuchesi sydd wedi’u heintio. Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus mewn rhaglenni dileu mewn gwledydd eraill. Fodd bynnag, gwn, ar ôl trafod â ffermwyr, y gall fod yn anghyfleus ac yn anodd yn ymarferol i alw’r gwartheg o dir pori yn ystod misoedd yr haf. Dyma pam rwyf wedi penderfynu y bydd yn ofynnol cynnal profion bob chwe mis yn unig ar y buchesi hynny sydd â'r risg fwyaf o gael eu heintio. Rydym yn casglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i nodi’r buchesi hyn, ac felly am y tro, bydd profion blynyddol yn parhau ar gyfer Cymru gyfan.
Dywedodd ffermwyr wrthym eu bod am sicrhau bod yr wybodaeth ar statws TB buches ar gael fel y gallant farnu ar risg y gwartheg y maent yn eu prynu. Rydym yn gwybod bod cynlluniau masnachu sy’n seiliedig ar risg wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddileu TB yn Seland Newydd ac Awstralia. Bydd darparu gwybodaeth ar sail buches yn un o rannau pwysicaf y rhaglen wrth fynd ymlaen, gan ategu ein polisïau rhanbarthol. Rydym wedi dechrau trwy roi cyllid grant i farchnadoedd da byw i ddiweddaru eu cyfarpar ar gyfer derbyn ac arddangos gwybodaeth am TB. Yn y tymor hwy, dim ond system orfodol all sicrhau bod gwerthwyr gwartheg yn rhoi gwybodaeth am TB yn y man gwerthu. Byddwn yn chwilio am ffyrdd o gyflwyno hyn.
Bydd cynlluniau iechyd gwirfoddol TB Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg, a elwir yn CHeCS, hefyd yn chwarae rhan allweddol drwy ganiatáu i fuchesi ddangos eu bod yn llai o risg hyd yn oed os ydynt mewn ardal TB uchel. Bydd hyn yn helpu prynwyr i leihau'r risg o gyflwyno'r clefyd, a bydd y buchesi sy’n cymryd rhan a roddir yn y dosbarth lleiaf o risg yn cael eu heithrio o rai o'n rheolaethau. Rwy’n pwyso ar yr Aelodau i’m helpu i annog ffermwyr i ymuno â chynllun, ac i ofyn am wybodaeth TB y gwartheg y maen nhw’n eu prynu, ni waeth o ble y maen nhw’n dod.
Un o elfennau allweddol ein dull o ddileu clefyd TB yw ymdrin â TB mewn buchesi sydd wedi’u heintio yn hirsefydlog a buchesi sydd wedi’u heintio dro ar ôl tro. Mae rhai o'r buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig â TB wedi bod dan gyfyngiadau TB ers blynyddoedd lawer. Bydd dileu clefyd yn y buchesi hyn yn lleihau’n sylweddol y costau a’r goblygiadau i'r trethdalwr, i berchnogion buchesi a buchesi cyfagos.
Rydym yn rhoi cynlluniau gweithredu ar waith wedi'u teilwra ar gyfer buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig, gyda mesurau sydd wedi'u hanelu'n benodol at gael gwared â’r haint. O ran rhai o'r achosion cronig hyn o fuchesi wedi’u heintio, gellid nodi bod moch daear yn rhan o'r broblem. Ac oni bai ein bod yn derbyn bod y buchesi hyn yn aros yn gyson heintiedig, mae'n rhaid i ni gael ffyrdd o dorri’r cylch haint rhwng moch daear a gwartheg. Rydym yn ystyried ystod o ddewisiadau i wneud hyn, gan gynnwys, lle mae angen, ddal moch daear wedi’u heintio mewn cawell a’u lladd yn ddi-boen. Mae hwn yn ddull newydd ac nid yw'n debyg i’r difa adweithiol a ddefnyddiwyd o’r blaen yn Lloegr. Bydd y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer dal, profi a chael gwared ar y moch daear yn gyfyngedig i'r buchesi hynny lle mae ymchwiliadau yn dangos bod yr haint ar foch daear yn yrrwr allweddol i’r clefyd parhaus. Byddwn hefyd ond yn cael gwared â’r moch daear sydd wedi’u profi’n bositif. Mewn ardaloedd lle mae modd profi nad yw’r moch daear yn cyfrannu at y clefyd, byddwn yn parhau â mesurau penodol i’r gwartheg, gan gynnwys mwy o fioddiogelwch.