Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd, ac rwy’n falch iawn gweld eich bod chi yn y gadair ar gyfer y datganiad arbennig hwn. A gaf i ddechrau drwy ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ein bod ni’n falch ei bod hi wedi bennu ei datganiad gyda chydnabyddiaeth o’r effaith andwyol mae’r clwyf yma’n cael ar ffermwyr ac ar y diwydiant yn gyffredinol? Rwy’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn dal i barhau i gydnabod hynny, achos mae’r clwyf yma yn taflu cysgod hir a thywyll dros ardaloedd eang o Gymru, gan gynnwys nifer o ardaloedd rwyf i’n eu cynrychioli fel Aelod rhanbarth y canolbarth a’r gorllewin.
Rwy’n credu er y bydd nifer yn cwestiynu agweddau ar y datganiad heddiw, mae Plaid Cymru yn sicr yn mynd i yn mo’yn gweithio gyda'r graen sydd yma i lwyddo i weld bod yna ddynesiad at waredu’r clwyf yma sydd yn cymryd yn llwyr i ystyriaeth lles anifeiliaid go iawn, sef lles anifeiliaid y buchesi yn ogystal â moch daear. Mae’r clwyf yma i gael mewn anifeiliaid rydym ni yn edrych ar eu hôl ac anifeiliaid gwyllt, ac mae angen edrych i gael gwared ar y clwyf o’r ddau sector. Ac yn y cyd-destun yna, rwy’n croesawu beth sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i’w ddweud.
Jest ychydig o gwestiynau sydd gen i, achos rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf wedi cael eu holi ac wedi cael eu hateb eisoes, ond mae yna ambell i agwedd y byddwn i’n licio clywed ychydig mwy amdanyn nhw. Fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod bod argymhelliad cryf gan y pwyllgor y mae hi wedi ateb iddyn nhw'r bore yma parthed sicrhau gan Lywodraeth San Steffan fod statws TB Cymru ddim yn mynd i fod yn unrhyw fath o rwystr mewn trafodaethau masnachu gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd wrth inni ymadael â’r undeb. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yn gadarnhaol y bydd hi yn gwneud hynny, ond, wrth gwrs, gyda’r Llywodraeth newydd nawr, rwyf jest eisiau sicrhau bod hynny’n cael ei wneud fel mater o frys a bod y materion yma yn cael eu gwyntyllu gyda’r Llywodraeth sydd yn negodi masnach ar ein rhan ni.
Hoffwn i glywed ychydig mwy am sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu adrodd nôl i ni fel Cynulliad neu i’r pwyllgor sy’n gyfrifol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gweledig, parthed yn arbennig yr agweddau newydd yn yr adroddiad yma, sef mynd i’r afael â moch daear ar ffermydd penodol lle mae yna dorri i lawr gyda’r haint wedi digwydd dros gyfnod hir, dros 18 mis a mwy, fel roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio. Mae hi wedi addo eisoes, wrth ymateb i’r pwyllgor, i ddod yn ôl mewn blwyddyn, ond fe fyddwn i’n licio gweld hynny’n dod yn rhyw fath o system adrodd nôl cyson, pob chwe mis neu bob blwyddyn, fel ein bod ni’n gallu monitro'r hyn sy’n cael ei wneud.
A jest yn y cyd-destun o fynd i’r afael â moch daear lle mae yna gyswllt rhwng bodolaeth moch daear ar fferm a’r ffaith bod yr haint yn cael ei drosglwyddo dro ar ôl tro, pwy sy’n mynd i benderfynu bod y cyswllt yna’n bodoli? Mae modd mynd i fferm, mae modd cael ecolegwyr yna i gerdded y fferm, mae modd canfod lle mae’r moch daear a lle maen nhw mewn perthynas â’r borfa ac ati, ond pwy sydd yn y pen draw yn penderfynu, ‘Ie, mae yna gyswllt fan hyn’? Pwy sy’n mynd i gymryd y penderfyniad yna? Ac wedyn, wrth gwrs, mae rhai o’r penderfyniadau sy’n deillio yn sgil hynny, gan gynnwys difa’r moch daear lle mae’n briodol.
A gaf i jest ofyn am fasnachu ar sail risg? Rwy’n credu bod yna rhyw dinc o dristwch gyda’r Ysgrifennydd Cabinet nad yw mwy o’r diwydiant wedi cydio yn y cyfle yma i wneud mwy o wybodaeth yn hysbys mewn marchnadoedd ac ati, ac er nad yw hi’n bwriadu gwneud hynny yn orfodol ar hyn o bryd, pa gamau fydd hi’n cymryd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf i osod system masnachu ar sail risg ar seiliau mwy cadarn yng Nghymru, fel ein bod ni’n gallu monitro hefyd a ydy hynny’n gwneud gwahaniaeth wrth sicrhau bod y clwyf yn diflannu yn rhanbarthol, o leiaf, mewn rhannau o Gymru?
Ac a gaf i ofyn a ydy hi’n bwriadu cadw’r cap? Rydym wedi trafod y cap a’r effaith ar fridio yn arbennig, ond a ydy hi’n bwriadu cadw’r cap o dan adolygiad, rhag ofn bod sgileffeithiau annisgwyl yn deillio o hynny?
Y cwestiwn olaf sydd gen i—. Rwy’n croesawu yn gyffredinol y ffaith ei bod, wrth ymateb i’r ymgynghoriad, yn ymddangos i mi fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi symud o system, er enghraifft, sy’n chwe mis i bawb yn yr ardal ddwys ac ati i system sy’n fwy seiliedig ar risg. Ond, yn sgil hynny, wrth gwrs, bydd yn rhaid bod yn fwy sicr o’r risg—hynny yw, mae’n rhaid bod yn sicr pa ffermydd a pha fuchesi sydd wir o dan risg a pha rai sydd mewn sefyllfa wahanol. Mae hynny yn gofyn cwestiwn ynglŷn ag adnoddau a staff, a sut mae hynny’n cael ei wneud, a byddwn yn hoffi clywed bach yn fwy gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ran sut y bydd hi’n gallu gwneud yn siŵr bod y safonau gwarantu’r risg yma ynghlwm wrth y cynllun newydd.