Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Mae gennyf i ddau gwestiwn byr a phenodol iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi cadarnhau y byddwch yn lleihau'r cap am iawndal o £15,000 i £5,000. Nawr, mi fydd yna, wrth gwrs, rai ffermwyr sydd wedi buddsoddi mewn pethau uchel eu gwerth o ran geneteg i wella'r gwerth genetig a chynhyrchiant eu buches. Sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod ffermwyr yn y sefyllfa benodol hon yn cael gwerth sy’n deg? Ac, yn ail, a wnewch chi gadarnhau pryd fydd y rhaglen trapio mewn cawell a lladd moch daear heintiedig yn ddi-boen yn dechrau?