Part of QNR – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2017.
Mae Llywodraeth Cymru, trwy Chwaraeon Cymru, yn rhoi arian i helpu’r maes chwaraeon anabledd yng Nghymru i gynnig mwy a gwell cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r gwaith o gwrdd ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.