1. Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 21 Mehefin 2017

Ddoe, cytunodd y Cynulliad ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2(a) i ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o’r grŵp Llafur, ac i ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Deisebau o grŵp UKIP. Rwyf nawr yn gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2(f), er mwyn ethol y Cadeiryddion yma i’r pwyllgorau hynny. Dim ond aelod o’r grŵp gwleidyddol a neilltuwyd i’r pwyllgor dan sylw a all gael ei enwebu fel Cadeirydd, a dim ond aelod o’r un grŵp plaid a gaiff enwebu. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 o Aelodau, mae’n rhaid i’r sawl a enwebir gael ei eilio gan Aelod arall yn yr un grŵp. Yn achos grwpiau plaid sydd â llai nag 20 o Aelodau, nid oes angen eilydd.

Yn gyntaf, felly, rwy’n gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, sydd i’w ethol o’r Blaid Lafur. A oes enwebiadau?