Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Fel yr hydra mewn chwedloniaeth Roegaidd, mae tlodi yng Nghymru yn anghenfil sy’n meddu ar lawer o bennau. Mae’n cyflwyno amrywiaeth o heriau, ac yn ôl pob golwg, wrth i bob un gael ei goresgyn, mae dwy broblem arall yn codi yn ei lle. Fodd bynnag, yn wahanol i’r hydra chwedlonol, mae tlodi yn rhywbeth go iawn ac yn effeithio ar fywydau a lles y rhai yr effeithir arnynt ar draws Cymru yn ddyddiol. Ar gyfer fy nadl fer heddiw, byddaf yn archwilio rhai o’r ffyrdd y mae tlodi yn amlygu ei hun yng Nghymru, yn ystyried yr heriau amlochrog y mae’n eu hachosi ac yn llunio rhai atebion posibl. Mae’n bleser gennyf allu rhoi munud o fy amser i Hefin David heddiw.
Er y gellid dadlau ynglŷn â’r diffiniadau o beth yn union a olygir wrth dlodi, nid oes dadl ynglŷn â niferoedd y bobl yr effeithir arnynt: mae 700,000 o bobl—ychydig o dan un o bob pedwar o bobl yng Nghymru—yn byw mewn tlodi, yn ôl ffigurau gan Sefydliad Joseph Rowntree. Dyna 700,000 o bobl y mae eu bywydau a’u cyfleoedd yn cael eu cyfyngu a’u difetha gan dlodi. Pe baem yn defnyddio’r dull mwy cyffredinol, gan fynd y tu hwnt i ystyried tlodi incwm cymharol yn syml, fel yr awgrymwyd gan grwpiau megis Sefydliad Bevan, gallai’r nifer fod yn fwy byth. Er bod y ffigurau hyn wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth, er gwaethaf ymdrechion gorau’r Llywodraeth, mae newidiadau wedi bod hefyd yn y ddemograffeg sy’n fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tlodi heddiw. Yn wir, mae’r amrywiad yn y modd y mae pobl yn profi tlodi yn mynd â mi yn ôl at y gyfatebiaeth a ddefnyddiais i agor fy nadl fer: gall gwahanol grwpiau o bobl mewn gwahanol ardaloedd brofi tlodi mewn gwahanol ffyrdd, ond mae’n bosibl canfod tueddiadau penodol.