12. 11. Dadl Fer: Yr Heriau Aml-ochrog sy'n Deillio o Dlodi yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 6:19, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Yn flaenorol, gallai bod o oedran pensiwn fod yn gyfystyr â byw mewn tlodi. Mae hyn wedi newid i raddau helaeth o ganlyniad i weithredoedd y Llywodraeth Lafur rhwng 1997 a 2010, ond amcangyfrifir o hyd fod tua 50,000 o bobl hŷn yn byw mewn amgylchiadau ariannol enbyd. Yn yr un modd, er na chyflawnwyd ymrwymiadau llawn bwriadau da i roi terfyn ar dlodi plant o fewn cenhedlaeth, mae’n dal i fod yn werth nodi dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Mae hwn yn dangos y byddai tlodi plant a thlodi pensiynwyr naill ai wedi aros yr un fath neu wedi codi, yn hytrach na gostwng yn sylweddol, oni bai am benderfyniadau polisi Llywodraeth Lafur flaenorol y DU. Mae’r cynnydd hwn i’w groesawu, ond mae parhad tlodi plant yn dal i effeithio ar lawer gormod o’n pobl ifanc, gydag elusennau yn awgrymu bod traean o blant Cymru yn profi tlodi, gan effeithio’n sylweddol ar eu cyfleoedd mewn bywyd.

Mae’r tueddiadau’n arbennig o amlwg mewn rhai rhannau o Gymru, a gall ffurf tlodi amrywio rhwng gwahanol ranbarthau yng Nghymru. Ar draws rhannau helaeth o Gymru, mae’n ymddangos bod heriau’n codi o brinder swyddi o ansawdd da sy’n talu’n dda. Mewn rhai rhannau o Gymru, megis yr ardaloedd gwledig yn bennaf, ymddengys bod yr heriau’n ymwneud â thlodi mewn gwaith, lle mae pobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi ar gyflogau isel heb ddigon o oriau. Ceir cyferbyniad ag etholaethau’r Cymoedd, fel fy un i, lle mae’r broblem yn gallu codi o ddiffyg swyddi yn y lle cyntaf, heb sôn am rai diogel sy’n talu’n dda.

Ceir cyswllt clir arall rhwng rhywedd a thlodi. Yn wir, fel y mae Chwarae Teg yn ein hatgoffa, gan bwyso ar ymchwil o Brifysgol Rhydychen, nid yw tlodi’n niwtral o ran rhywedd. Mae menywod yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn gwneud gwaith rhan-amser neu waith elfennol, gydag enillion cyfartalog o lai nag £8,000 y flwyddyn. Adlewyrchir rôl ymylol yn y gweithle gan rôl ganolog yn y cartref, sy’n golygu bod achosion a phrofiadau menywod o dlodi yn wahanol i rai dynion.

Yn yr holl amrywiaeth hon, mae tlodi’n anghenfil amlochrog go iawn. Mae’r ffyrdd y gall effeithio hefyd yn dangos amrywiaeth. Rwyf am ganolbwyntio ar bedair o’r rhain heddiw. Yn gyntaf, rwyf am siarad am dlodi bwyd. Ers cael fy ethol rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda Banc Bwyd Merthyr Cynon, rhan o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell o dros 400 o fanciau bwyd, i dynnu sylw at eu gwaith yn fy etholaeth a’r ffaith gwbl annerbyniol nad oes gan bobl ar draws y wlad ddigon i’w fwyta. Mae’n frawychus yn 2016-17 fod rhwydwaith Banc Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru wedi darparu dros 95,000 o gyflenwadau bwyd brys tri diwrnod i bobl mewn argyfwng, cynnydd o 10 y cant o’r flwyddyn flaenorol; aeth 34,803 o’r cyflenwadau—dros draean—i blant. Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn awgrymu nad yw’r rhan fwyaf o’u defnyddwyr yn unigryw gan fod pobl, ar gyfartaledd, angen atgyfeiriadau lluosog at fanc bwyd. Ar ben hynny, lle mae adroddiadau newyddion yn sôn am swyddogion yr heddlu a nyrsys yn gorfod troi at fanciau bwyd, gwelwn fod hyn, yn wir, yn ffenomenon gyffredin. Mae banciau bwyd a’u cefnogwyr yn gwneud gwaith ardderchog, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt, ond mae’n wirioneddol gywilyddus fod pobl yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd yn dibynnu ar eu presenoldeb er mwyn sicrhau nad yw dinasyddion yn mynd heb fwyd.

Yn ail, rwyf am sôn am dlodi tanwydd. Mae aelwydydd yn profi hyn pan fyddant angen gwario 10 y cant neu fwy o’u hincwm ar gostau ynni er mwyn cynhesu eu cartrefi’n ddigonol. Cyfarfûm yn ddiweddar â National Energy Action Cymru i drafod tlodi tanwydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy yn y grŵp trawsbleidiol arfaethedig ar y mater hwn. Er bod gwelliannau effeithlonrwydd ynni’r Llywodraeth wedi sicrhau gostyngiad i’w groesawu yn lefelau tlodi tanwydd, nododd NEA Cymru fod 291,000 o aelwydydd yn dal i fethu fforddio cynhesu eu cartrefi’n ddigonol. O’r rhain, amcangyfrifir bod 3 y cant o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd difrifol, ac angen gwario 20 y cant neu fwy o’u hincwm ar ynni i gyrraedd lefel ddigonol o gynhesrwydd. Ceir premiwm tlodi’n gysylltiedig â’r mater hwn, wedi’i achosi gan y ddibyniaeth ar fesuryddion talu ymlaen llaw drud sydd 20 y cant yn ddrutach ar gyfartaledd.

Gall tlodi tanwydd fod yn fater o fywyd neu farwolaeth yn llythrennol. Mae NEA Cymru wedi cyfrifo y gellir priodoli 540 o farwolaethau’r gaeaf yn ystod 2015-16 i gartrefi oer. Mae hyn yn golygu bod rhwng pedwar a phump o bobl Cymru wedi marw oherwydd hyn bob dydd dros y gaeaf hwnnw.

Yn drydydd, rwyf am sôn am effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd bywyd. Mae’r bwlch cyrhaeddiad wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, ond ni allwn ddianc rhag y realiti noeth y bydd plant o gefndiroedd incwm isel, o 3 oed ymlaen, ac ar bob cam o’u haddysg wedi hynny, yn cyflawni canlyniadau gwaeth yn yr ysgol na phlant o gartrefi gwell eu byd. Mae hyn yn effeithio ar eu gallu i fanteisio ar eu doniau a gall arwain at brofiadau cyflogaeth ar y cyrion yn ystod eu bywydau fel oedolion. Fel y mae Achub y Plant wedi dweud, mae plant a phobl ifanc sy’n cael eu magu mewn tlodi yn fwy tebygol o fod ar gyflog isel, yn ddi-waith ac yn ddibynnol ar les yn eu bywydau fel oedolion. Gall rhai grwpiau wynebu rhwystrau penodol mewn addysg, ac unwaith eto, mae’n rhaid datblygu atebion pwrpasol i’r heriau hyn.

Yn bedwerydd, rwyf am ystyried yn fyr effaith tlodi ar iechyd, lles ac iechyd meddwl yn benodol. Mae hwn yn destun pryder arbennig i mi. Mae’r ardal gynnyrch ehangach haen is waethaf ond un yng Nghymru ar gyfer canlyniadau iechyd yn fy etholaeth i, sydd â nifer anghymesur o ardaloedd cynnyrch ehangach haen is ymhlith y 10 y cant isaf. Mae hyn i’w weld mewn cyfraddau salwch hirdymor, lefelau dewisiadau ffordd o fyw afiach, trallod emosiynol a llawer o ffyrdd eraill nad oes gennyf amser i’w harchwilio’n llawn heddiw. Hoffwn nodi dwy ffaith fer. Yn gynharach eleni, dywedodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant mai tlodi yw’r bygythiad mwyaf i iechyd plant yng Nghymru. Nodwyd ganddynt fod plant o’r un rhan o bump mwyaf difreintiedig o’r boblogaeth 70 y cant yn fwy tebygol o farw yn ystod plentyndod na’r rhai sy’n byw yn ardaloedd mwyaf cefnog Cymru. Adleisiai hyn adroddiad blynyddol ystyriol Prif Swyddog Meddygol Cymru a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf. Roedd yr adroddiad yn edrych ar y graddiant cymdeithasol mewn iechyd, lle mae anghydraddoldebau yng nghanlyniadau iechyd y boblogaeth yn gysylltiedig â statws economaidd-gymdeithasol unigolion. Mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn llai tebygol o gael iechyd da am y rhan fwyaf o’u bywydau na’r rhai nad ydynt yn byw mewn tlodi. Mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol hefyd yn cyflawni rôl ddefnyddiol yn egluro pam y mae hyn yn bwysig i bob un ohonom. Mae anghydraddoldebau iechyd sy’n gysylltiedig â thlodi’n costio oddeutu £3 biliwn i £4 biliwn i Gymru bob blwyddyn, a hynny’n ychwanegol at y manteision economaidd a gollir wrth i bobl fethu ffynnu a chyflawni. Fel y dywedodd Kate Pickett a Richard Wilkinson yn ‘The Spirit Level’, mae cymdeithasau mwy cyfartal yn gwneud yn well i’w holl ddinasyddion.

Beth y gallwn ei wneud? Fy man cychwyn yma yw bod yn rhaid i ni gydnabod, i ryw raddau, fod ein dwylo wedi’u clymu gan y penderfyniadau a wneir yn San Steffan. Er enghraifft, mae dulliau fel y system nawdd cymdeithasol wedi’u cadw yn ôl i San Steffan. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi awgrymu nad ydym eto wedi gweld effeithiau llawn newidiadau fel cyflwyno credyd cynhwysol, ac mae ein gallu i amsugno eu heffaith yn gyfyngedig. Yn yr un modd, o ran tlodi tanwydd, mae penderfyniadau ynglŷn â phrisiau ynni a’r lwfans tanwydd gaeaf allan o’n dwylo, ac mae cyd-destun cyffredinol ymrwymiad Torïaidd ideolegol i galedi yn y sector cyhoeddus wedi tynnu biliynau o bunnoedd allan o gyllidebau ac wedi achosi niwed ofnadwy i’n gallu i fynd i’r afael â thlodi. Cafodd arian ei dynnu o’r sectorau addysg ac iechyd a allai fod wedi mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ym maes iechyd neu’r byd addysg, gan niweidio’r gwasanaethau hanfodol y mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o ddibynnu arnynt, ac arwain at economi nad yw wedi tyfu digon i greu’r swyddi o ansawdd uchel sy’n cynnig un ffordd allweddol allan o dlodi. Mae’n dda bod y Canghellor wedi cydnabod ein bod wedi blino ar galedi, ond rhaid gweithredu yn awr i ddilyn ei eiriau. Fodd bynnag, yn y cyfamser, yma yng Nghymru, rhaid i ni wneud yn siŵr y gallwn ddefnyddio’r arfau yn ein meddiant mor effeithiol ag y gallwn. Croesawaf y ffaith fod lleihau tlodi yn ganolog i amcanion lles Llywodraeth Cymru, ond nid oes gennyf amser yma heddiw i fynd i’r afael â’r ystod lawn o gamau a gymerwyd ar draws y Llywodraeth i helpu’r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Ar gyfer rhan olaf fy nadl fer heddiw, byddaf yn cyfyngu fy hun i ddwy agwedd ar ein hymateb. Mae’r gyntaf yn ymwneud â Cymunedau yn Gyntaf. Nodaf sylwadau’r Ysgrifennydd cymunedau o’r pwyllgor cydraddoldeb y bore yma nad yw’r rhaglen wedi sicrhau’r newid sylfaenol y dylai fod wedi’i wneud, ond ei fod i’r un graddau wedi atal tlodi rhag gwaethygu. Sicrhaodd Cymunedau yn Gyntaf rai llwyddiannau go iawn yn fy etholaeth. Rwyf am gofnodi fy niolch i’r staff a gynorthwyodd i wneud hyn. Mewn unrhyw raglen yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y bydd elfennau mwyaf llwyddiannus y polisi yn cael eu cadw. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r agenda gyflogadwyedd ac rwyf am dynnu sylw at hyn fel ail agwedd allweddol.

Yr arf allweddol ar gyfer codi pobl allan o dlodi yw drwy gynyddu cyfleoedd cyflogaeth, gan wneud i waith dalu, a grymuso ein dinasyddion nid yn unig i gael swyddi, ond i gael swyddi da, a chwalu’r rhwystrau rhag gallu gwneud hynny. Ar gyfer ardaloedd megis Cwm Cynon a gweddill y Cymoedd gogleddol yn wir, darperir un ateb drwy wella ac ymestyn cysylltiadau trafnidiaeth. Gall cynlluniau fel y metro fod yn drawsnewidiol, ond mae’n rhaid i brisiau a thaliadau fod yn fforddiadwy. Fel y crybwyllais yma yn y Siambr hon o’r blaen, mae taith ar y trên yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd i Aberdâr ar hyn o bryd yn costio’r un faint â chyflog awr o’r cyflog byw cenedlaethol.

Rhaid i ni hefyd greu cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd fel y Cymoedd. Ceir rhai syniadau da iawn yma ac rwy’n edrych ymlaen at ddilyn hynt Swyddi Gwell, yn Nes Adref. Cyflwynodd TUC Cymru achos da iawn ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hyn. Mae yna hefyd gyfleoedd i dyfu’r economi sylfaenol, gan wneud gwell llwyddiant o’r hyn sydd yno eisoes. Mae’n galonogol fod Ysgrifennydd yr economi wedi nodi rôl hyn yn lleihau anghydraddoldebau rhwng pobl a rhwng ein cymunedau.

Gall dulliau cydgysylltiedig fel y fargen ddinesig chwarae rhan allweddol yn trechu tlodi, fel y mae arweinwyr cynghorau sy’n gysylltiedig â hwy wedi awgrymu, er bod yn rhaid i’r nod hwn fod yn un cadarn i sicrhau nad yw’n llithro i lawr yr agenda, fel y nododd pryderon a leisiwyd gan Sefydliad Bevan. Mae polisïau fel cynnig gofal plant newydd Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer ymestyn a gwella gwaith menywod a mynd i’r afael ag agweddau ar y cwestiwn sy’n ymwneud â’r rhywiau. Er mwyn trechu tlodi mae’n rhaid i ni fod yn arloesol a chydnabod ei heriau gwahanol. Mae’n rhaid i ni hefyd weithio gyda’n gilydd ar draws pob haen o Lywodraeth, a’r sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd, heb ildio na phetruso rhag anelu at ein nod. Ond os gwnawn ni hynny, gallwn ladd yr anghenfil.