Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 21 Mehefin 2017.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond nodi hefyd nad diffyg uchelgais a arweiniodd at y penderfyniad i beidio â gwneud cais am gemau 2026? Diffyg adnoddau o ganlyniad i flwyddyn ar ôl blwyddyn o galedi a thoriadau i gyllidebau Llywodraeth Cymru a fu’n gyfrifol am hynny. Wedi dweud hynny, rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod yn parhau i fod mewn sefyllfa lle byddem yn dymuno archwilio pob cyfle i wneud cais, nid yn unig ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, ond ar gyfer digwyddiadau mawr eraill. Rwyf wedi dweud yn gyhoeddus y byddai cyfle i Brydain wneud rhywbeth gwahanol iawn ar gyfer gemau 2022 pe bai Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad yn caniatáu i’r rheolau gael eu llacio fel y gellir cyflwyno cais amlwladol. Ar hyn o bryd, nid ymddengys y gellid llacio’r rheolau hynny, ond pe caent eu llacio, mae’n gwbl bosibl y gellid cynnal Gemau’r Gymanwlad ar draws y DU gyfan. Byddai hynny’n un opsiwn. Opsiwn arall yw gwneud cais am gemau yn y dyfodol—2030 neu wedyn. O ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda gemau 2022, mae’n llai tebygol bellach y bydd gemau 2026 yn cael eu cynnal yn y DU, sy’n gwneud 2030 yn bosibilrwydd.
Rydym eisoes wedi cychwyn adolygiad trylwyr o’r holl gyfleusterau chwaraeon a digwyddiadau mawr yng Nghymru, gyda’r bwriad o allu nodi pa fath o fuddsoddiad y byddai ei angen, ac yn lle, ar gyfer y cymunedau a fyddai hefyd yn ein galluogi i wneud cais yn y dyfodol am ddigwyddiad fel Gemau’r Gymanwlad. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth wneud ceisiadau a cheisio chwilio am gyfleoedd ar lwyfan byd-eang, fod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o’r angen i ddarparu enillion ar ein buddsoddiad, ac am y rheswm hwnnw, rydym yn ofalus iawn yn y Llywodraeth ein bod yn sicrhau ein bod yn gwneud ceisiadau am y digwyddiadau sy’n darparu’r manteision mwyaf i drethdalwyr Cymru ac i bobl Cymru.