<p>Datblygiad Economaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 1:57, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Gwn fod adran Ysgrifennydd y Cabinet yn anelu at gynyddu datblygiad economaidd yng Nghymru a cheisio sicrhau ffyniant i bawb. Ond a yw’n ymwybodol o’r cyhoeddiad a wnaed gan Tesco heddiw eu bod yn bwriadu cau Tesco House yng Ngogledd Caerdydd yn fy etholaeth, a cholli 1,200 o swyddi, ac y bydd gwaith y ganolfan alwadau’n symud i Dundee, lle byddant yn creu 200 o swyddi? Mae hyn yn effeithio ar lawer o bobl yng Ngogledd Caerdydd ac mewn etholaethau cyfagos. Mae wedi bod yno ers blynyddoedd lawer; rwyf wedi ymweld â’r lle ar sawl achlysur. Beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud gyda’r cyhoeddiad siomedig hwn?