<p>Cymru fel Cyrchfan i Dwristiaid</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:58, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer marchnata Cymru’n effeithiol fel cyrchfan i dwristiaid. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dweud nad yw’r gyllideb farchnata bresennol o £10 miliwn ar gyfer Croeso Cymru yn ddigonol i wireddu potensial y diwydiant yng Nghymru. Mae’r gyllideb ar gyfer Visit Scotland, er enghraifft, oddeutu £55 miliwn. Pa gynllun sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet, ar y cyd â Croeso Cymru, i fynd i’r afael â’r pryderon hyn ac i sicrhau y gwneir y gorau o botensial llawn twristiaeth yng Nghymru, gan fod gennym fwy o gestyll a mwy o eglwysi yma—[Torri ar draws.]—yn hytrach nag ynysoedd mwy cyfannedd?