Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac am yr amser a roddodd i drafod materion sy’n codi yn economi Castell-nedd a’r rhanbarth gyda mi. Fe fydd yn gwybod o’r trafodaethau hynny fod busnesau bach, fel y dywedais wrtho, yn aml yn teimlo nad yw Busnes Cymru yn hawdd i’w ddefnyddio, a’i fod yn rhy ganolog. Fodd bynnag, i fusnesau mwy o faint, ar gam gwahanol yn eu cylch twf os mynnwch, maent yn aml yn awyddus i gyllid a chymorth busnes fod yn gydgysylltiedig ac yn integredig mewn cynnig di-dor, ac eto rydym yn darparu’r rheini drwy Lywodraeth Cymru drwy wahanol sianeli. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hynny er mwyn i ni sicrhau ein bod yn darparu’r cymorth gorau posibl i gwmnïau y dymunwn eu gweld yn tyfu, cwmnïau cynhenid yng Nghymru?