Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch. Llywydd, rwy’n datgan buddiant, am fod fy chwaer yn gweithio i Network Rail. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd eisoes, wedi cyhoeddi rhestr o’i flaenoriaethau ar gyfer adeiladu gorsafoedd newydd, ac roeddwn yn synnu nad oedd Crymlyn ymhlith y gorsafoedd blaenoriaethol hynny, o ystyried y lleoliad allweddol y mae’n ei ddarparu ar gyfer cyfnewidfa amlfoddol a’i botensial fel canolbwynt beicio a cherdded pellter hir hefyd—yn yr ardal, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n cynnwys y stryd sydd â’r llygredd aer gwaethaf yn unrhyw le yn y DU y tu allan i Lundain. Rwy’n deall bod ei adnoddau’n gyfyngedig a bod nifer o ffactorau’n cystadlu, ond efallai nad yw’r meini prawf presennol ar gyfer pennu gorsafoedd blaenoriaethol mor hollgynhwysol ag y gallent fod. A wnaiff gytuno i gyfarfod â mi i drafod ac i archwilio’r anghenion penodol a’r potensial yng Nghrymlyn ar gyfer gorsaf newydd?