<p>Amseroedd Aros</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:27, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Mae amseroedd aros ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi gwella yn gyffredinol ar draws bron bob un o’r prif fesurau dros y flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft, roedd amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gwella i 90.5 y cant ar ddiwedd mis Mawrth eleni, ymatebwyd i dros 80 y cant o alwadau ambiwlans coch ym mis Ebrill 2017 o fewn yr amser targed, ac roedd y perfformiad canser 62 diwrnod diweddaraf yn 92 y cant. Ond yn naturiol, rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd gynllunio a sicrhau gwelliannau pellach.